Cael gwybodaeth am eiddo a thir

Skip contents

Chwilio’r gofrestr

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw cofnodion ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo neu dir a werthwyd yng Nghymru a Lloegr er 1993, gan gynnwys y gofrestr teitl, cynllun teitl a chrynodeb o’r teitl.

Chwilio’r gofrestr ar-lein

Chwiliwch y gofrestr yn ôl cyfeiriad neu leoliad.

Os nad yw eiddo’n ymddangos yn y chwiliad, efallai ei fod wedi ei ffeilio o dan y cyfeiriad anghywir. Gofynnwch am chwiliad o’r map mynegai yn lle hynny.

Cofrestr teitl

Mae gan y gofrestr teitl fanylion am yr eiddo neu’r tir (ar ffurf PDF). Mae’n cynnwys:

  • y rhif teitl
  • pwy sy’n berchen arno
  • y swm a dalwyd (eiddo yn unig, os yw ar gael)
  • unrhyw hawliau tramwy
  • a yw morgais arno wedi cael ei ‘ryddhau’, er enghraifft ei dalu

Crynodeb o’r teitl

Mae’r crynodeb o’r teitl (i’w weld ar-lein) yn cynnwys:

  • y rhif teitl
  • pwy sy’n berchen arno
  • y swm a dalwyd amdano
  • a yw’r eiddo’n rhydd-ddaliol neu’n brydlesol (a elwir yn ‘daliadaeth’)
  • enw a chyfeiriad y rhoddwr benthyg (os oes morgais ar yr eiddo)

Bydd rhagor o wybodaeth gan y brydles os yw’r eiddo’n brydlesol.

Cynllun teitl

Mae’r cynllun teitl yn fap sy’n dangos:

Prynu copïau o’r wybodaeth

Gallwch lawrlwytho copïau ar-lein o’r wybodaeth am ffi ond ni allwch eu defnyddio fel prawf o berchnogaeth.

I gael copïau i’w defnyddio fel prawf o berchnogaeth (mewn achos llys er enghraifft) dylech archebu copïau swyddogol.

Archebu copïau swyddogol

Lawrlwythwch a llenwch gais am gopïau swyddogol o ddogfennau a’i anfon i Gofrestrfa Tir EF gyda’ch ffi.

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Bydd eich copïau yn cyrraedd mewn llai nag wythnos.

Ffïoedd

Dogfen Ffi
Cofrestr teitl (copi ar-lein) £3
Cynllun teitl (copi ar-lein) £3
Cofrestr teitl (copi swyddogol) £7
Cynllun teitl (copi swyddogol) £7

Hawliau dros derfynau tir ac eiddo cyffiniol

Gall y gofrestr teitl roi manylion ichi am hawliau dros dir cyffiniol. Gallwch wneud cais am gopi o’r gweithredoedd os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.

Mae cynlluniau teitl yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am derfynau yn unig. Nid oes cofnod o’r union derfynau fel rheol.

Cael cofrestri teitl hanesyddol

Efallai y gallwch gael gwybod pwy oedd yn berchen ar yr eiddo cyn y perchennog presennol o gofrestr teitl hanesyddol. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd os ydych yn ceisio gwybod pa mor hen yw eiddo.

Gofynnwch i Gofrestrfa Tir EF chwilio pwy oedd yn berchen ar yr eiddo ar gyfer dyddiad penodol neu ddyddiadau lluosog.

Ar gyfer eiddo a gofrestrwyd cyn 1993

Cysylltwch â Chofrestrfa Tir EF gyda’r:

  • rhif teitl neu gyfeiriad yr eiddo
  • dyddiad neu ddyddiadau rydych yn gwneud cais amdano/amdanynt

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn chwilio ei chofnodion ac yn dweud wrthych a oes copi ar gael, a sut i wneud cais amdano.

Ar gyfer eiddo a gofrestrwyd ar ôl 1993

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen HC1. Anfonwch y ffurflen i Gofrestrfa Tir EF gyda £7 ar gyfer pob dyddiad rydych yn gwneud cais amdano.

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Bydd canlyniadau eich chwiliad yn cyrraedd mewn llai nag wythnos.

Os nad ydych yn gwybod y dyddiad rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â Chofrestrfa Tir EF.