Cael help gyda chynilion os ydych ar incwm isel (Cymorth i Gynilo)
Sut mae’n gweithio
Math o gyfrif cynilo yw Cymorth i Gynilo. Mae’n rhoi cyfle i rai pobl sydd â hawl i Gredyd Treth Gwaith, neu sy’n cael Credyd Cynhwysol, gael bonws o 50c am bob £1 y maent yn ei chynilo dros 4 blynedd.
Mae Cymorth i Gynilo wedi’i gefnogi gan y Llywodraeth sy’n golygu bod yr holl gynilion yn y cynllun yn ddiogel.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Sut mae taliadau’n gweithio
Gallwch gynilo rhwng £1 a £50 bob mis calendr. Nid oes rhaid i chi dalu arian i mewn bob mis.
Gallwch dalu arian i mewn i’ch cyfrif Cymorth i Gynilo gan ddefnyddio cerdyn debyd, archeb sefydlog neu drosglwyddiad banc.
Gallwch dalu i mewn cymaint o weithiau ag y mynnwch, ond y swm mwyaf y gallwch ei dalu i mewn bob mis calendr yw £50. Er enghraifft, os ydych wedi cynilo £50 erbyn 8 Ionawr, ni allwch dalu i mewn eto tan 1 Chwefror.
Gallwch ond tynnu arian allan o’ch cyfrif Cymorth i Gynilo i’ch cyfrif banc.
Sut mae bonysau’n gweithio
Cewch fonysau ar ddiwedd yr ail flwyddyn a’r bedwaredd flwyddyn. Maent yn seiliedig ar faint rydych wedi’i gynilo.
Yr hyn sy’n digwydd ar ôl 4 blynedd
Bydd eich cyfrif Cymorth i Gynilo yn cau 4 blynedd ar ôl i chi ei agor. Ni fyddwch yn gallu ei ailagor nac agor cyfrif Cymorth i Gynilo arall. Byddwch yn gallu cadw’r arian o’ch cyfrif.
Gallwch gau’ch cyfrif ar unrhyw adeg. Os byddwch yn cau’ch cyfrif yn gynnar, byddwch yn colli’ch bonws nesaf ac ni fydd modd i chi agor un arall.
Mewngofnodi
Mewngofnodwch i’ch cyfrif Cymorth i Gynilo os oes un gennych yn barod.