Cael help gyda chynilion os ydych ar incwm isel (Cymorth i Gynilo)

Sgipio cynnwys

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Gallwch ennill 2 fonws rhydd o dreth dros 4 blynedd. Cewch unrhyw fonysau rydych wedi’u hennill, hyd yn oed os byddwch yn tynnu arian allan.

Ar ôl eich 2 flynedd gyntaf, cewch fonws cyntaf os ydych wedi bod yn defnyddio’ch cyfrif i gynilo. Bydd y bonws hwn yn 50% o’r balans uchaf rydych wedi’i gynilo.

Ar ôl 4 blynedd, cewch fonws terfynol os byddwch yn parhau i gynilo. Bydd y bonws hwn yn 50% o’r gwahaniaeth rhwng 2 swm:

  • y swm uchaf a gynilwyd yn y 2 flynedd gyntaf (blynyddoedd 1 a 2)
  • y swm uchaf a gynilwyd yn y 2 flynedd olaf (blynyddoedd 3 a 4)

Os na fydd eich balans uchaf yn cynyddu, ni fyddwch yn ennill bonws terfynol.

Y mwyaf y gallwch ei dalu i’ch cyfrif bob mis calendr yw £50, sef £2,400 dros 4 blynedd. Y mwyaf y gallwch ei ennill o’ch cynilion mewn 4 blynedd yw £1,200 mewn arian bonws.

Mae’ch bonws yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc, nid i’ch cyfrif Cymorth i Gynilo.

Enghraifft Rydych yn talu £25 i mewn bob mis calendr am 2 flynedd. Nid ydych yn tynnu unrhyw arian allan. Eich balans uchaf fydd £600. Eich bonws cyntaf yw £300, sef 50% o £600.

Yn ystod blynyddoedd 3 a 4, rydych yn cynilo £200 yn ychwanegol i dyfu’ch balans uchaf o £600 i £800. Eich bonws terfynol yw £100, sef 50% o £200. Er i chi dynnu rhywfaint o arian allan ar ôl i’ch balans fod yn £800, nid yw hyn yn effeithio ar eich bonws.

Yr hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn tynnu arian allan

Os byddwch yn tynnu arian allan, bydd yn anoddach i chi wneud y canlynol:

  • tyfu’ch balans uchaf
  • ennill y bonysau mwyaf posibl

Gallai tynnu arian allan olygu nad ydych yn gallu ennill bonws terfynol – yn dibynnu ar faint a dynnwch allan a phryd y gwnewch hynny.