Help gyda chynilion os ydych ar incwm isel (Cymorth i Gynilo)
Cymhwystra
Gallwch agor cyfrif Cymorth i Gynilo os ydych yn cael:
- Credyd Treth Gwaith
- Credydau Treth Plant - a bod gennych hawl i Gredyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol a chawsoch chi (ynghyd â’ch partner os yw’n gais ar y cyd) gyflog clir o £793.17 neu fwy yn ystod eich cyfnod asesu misol diwethaf
Eich cyflog clir yw’ch cyflog ar ôl didyniadau (megis treth neu Yswiriant Gwladol).
Os cewch daliadau fel pâr, gallwch chi a’ch partner wneud cais am eich cyfrifon Cymorth i Gynilo eich hun. Mae’n rhaid i chi wneud cais yn unigol.
Mae angen i chi hefyd fod yn byw yn y DU. Os ydych yn byw dramor, gallwch wneud cais am gyfrif os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
- rydych yn was y Goron, neu’n briod neu’n bartner sifil i’r unigolyn hwnnw
- rydych yn aelod o’r Lluoedd Arfog Prydeinig, neu’n briod neu’n bartner sifil i’r unigolyn hwnnw
Os ydych yn rhoi’r gorau i hawlio budd-daliadau
Gallwch barhau i ddefnyddio’ch cyfrif Cymorth i Gynilo.