Codau treth dros dro

Os yw’ch cod treth yn gorffen gyda ‘W1’ neu ‘M1’ neu ‘X’, mae hynny yn dangos bod gennych god treth dros dro. Er enghraifft:

  • 1257L WI
  • 1257L MI
  • 1257L X

Efallai y caiff cod treth dros dro ei roi i chi os nad yw’ch manylion incwm yn cyrraedd CThEF mewn pryd ar ôl newid mewn amgylchiadau megis:

  • swydd newydd

  • gweithio i gyflogwr ar ôl bod yn hunangyflogedig

  • cael buddiannau cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth

Fel arfer bydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth pan fyddwch chi neu’ch cyflogwr yn darparu’ch manylion cywir. Gall hyn gymryd hyd at 35 diwrnod.

Os yw’r newid yn eich amgylchiadau yn golygu nad ydych wedi talu’r swm cywir o dreth, bydd y cod treth dros dro yn aros ar waith hyd nes eich bod wedi talu’r swm cywir o dreth ar gyfer y flwyddyn.

Diweddaru eich manylion

Mae’ch cyflogwr yn gallu eich helpu i ddiweddaru’ch cod treth drwy anfon manylion am eich pensiwn neu incwm blaenorol at CThEF.

Os ydych wedi dechrau swydd newydd

Rhowch P45 o’ch swydd flaenorol i’ch cyflogwr. Os nad oes gennych P45, dylai’ch cyflogwr ofyn i chi lenwi ffurflen er mwyn rhoi manylion unrhyw fuddiannau neu gyflogaethau blaenorol. Efallai mai rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn fydd hon.

Os ydych wedi dechrau gweithio i gyflogwr ar ôl bod yn hunangyflogedig

Dylai’ch cyflogwr ofyn i chi lenwi ffurflen er mwyn rhoi manylion eich buddiannau neu gyflogaethau blaenorol. Efallai mai rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn fydd hon.

Os ydych wedi dechrau cael buddiannau cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth

Gwiriwch eich cod treth ar-lein i wneud yn siŵr ei fod yn cynnwys y buddiant cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth. Os nad yw’n cynnwys y rhain, ewch ati i ddiweddaru’ch manylion drwy’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer codau treth, neu drwy gysylltu â CThEF.

Bydd y cod treth dros dro yn parhau i fod ar waith tan ddiwedd y flwyddyn dreth. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu’r swm cywir o dreth ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol. Yn y flwyddyn dreth newydd, dylai CThEF roi cod treth i chi nad yw’n un dros dro.