Beth mae’ch cod treth yn ei olygu

Mae’ch cod treth yn cynnwys rhifau a llythrennau.

1257L yw’r cod treth a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd ag un gyflogaeth neu bensiwn.

Fel arfer, bydd CThEF yn cysylltu â chi i esbonio sut y cyfrifwyd eich cod treth unigol, os bydd eich cod treth yn newid.

Gwirio beth mae’ch cod treth yn ei olygu

Gallwch ddefnyddio’r gwiriwr cod treth i gael gwybod y canlynol:

  • yr hyn y mae’r rhifau a’r llythrennau yn eich cod treth yn ei olygu

  • faint o dreth y byddwch yn ei thalu

  • yr hyn y gall fod angen i chi ei wneud nesaf

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl y gofynnir i chi ynghylch:

Beth mae’r rhifau yn ei olygu

Mae’r rhifau yn eich cod treth yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn faint o incwm rhydd o dreth rydych yn ei gael yn ystod y flwyddyn dreth honno.

Mae CThEF yn cyfrifo’ch rhif unigol ar sail eich Lwfans Personol rhydd o dreth ac ar sail incwm nad ydych wedi talu treth arno (megis llog heb ei drethu neu enillion rhan amser). Maent hefyd yn ystyried gwerth unrhyw fuddiannau cwmni (yn agor tudalen Saesneg) (megis car cwmni).

Enghraifft 

Mae gennych hawl i’r Lwfans Personol rhydd o dreth safonol, sef £12,570, ond rydych hefyd yn cael yswiriant meddygol gan eich cyflogwr. Gan mai buddiant cwmni yw hwn, mae’n gostwng eich Lwfans Personol ac yn newid eich cod treth.

Mae’r buddiant yswiriant meddygol, sef £1,570, yn cael ei ddidynnu oddi wrth eich lwfans personol, gan olygu bod gennych Lwfans Personol rhydd o dreth o £11,000. 1100L fyddai’ch cod treth, felly.

Beth mae’r llythrennau yn ei olygu

Mae’r llythrennau yn eich cod treth yn cyfeirio at eich sefyllfa a sut y mae’n effeithio ar eich Lwfans Personol.

Llythrennau Beth maent yn ei olygu
L Mae gennych hawl i’r Lwfans Personol rhydd o dreth safonol
M Lwfans Priodasol: rydych wedi cael trosglwyddiad o 10% o Lwfans Personol eich partner
N Lwfans Priodasol: rydych wedi trosglwyddo 10% o’ch Lwfans Personol i’ch partner
T Mae’ch cod treth yn cynnwys cyfrifiadau eraill i gyfrifo’ch Lwfans Personol
0T Defnyddiwyd eich Lwfans Personol i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi
BR Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd sylfaenol (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn)
D0 Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn)
D1 Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd ychwanegol (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn)
NT Nid ydych yn talu unrhyw dreth ar yr incwm hwn
S Trethir eich incwm neu’ch pensiwn gan ddefnyddio’r cyfraddau yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg)
S0T Defnyddiwyd eich Lwfans Personol (yn yr Alban) i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi
SBR Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd sylfaenol yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn)
SD0 Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd ganolradd yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn)
SD1 Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn)
SD2 Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch bellach yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn)
SD3 Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uchaf yn yr Alban (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn)
C Trethir eich incwm neu’ch pensiwn gan ddefnyddio’r cyfraddau yng Nghymru
C0T Defnyddiwyd eich Lwfans Personol (yng Nghymru) i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi 
CBR Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd sylfaenol yng Nghymru (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) 
CD0 Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd uwch yng Nghymru (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) 
CD1 Trethir eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ar y gyfradd ychwanegol yng Nghymru (defnyddir y cod hwn fel arfer os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn)

Os oes ‘W1’ neu ‘M1’ neu ‘X’ ar ddiwedd eich cod treth

Codau treth dros dro yw’r rhain.

Os oes ‘K’ ar ddechrau eich cod treth

Mae codau treth sydd â ‘K’ ar y dechrau yn golygu bod gennych incwm nad yw’n cael ei drethu mewn modd arall a bod yr incwm hwnnw’n werth mwy na’ch lwfans rhydd o dreth.

Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, mae hyn yn digwydd os ydych yn:

Mae’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn cymryd y dreth sy’n ddyledus ar yr incwm nad yw wedi’i drethu o’ch cyflog neu’ch pensiwn – hyd yn oed os oes sefydliad arall yn talu’r incwm heb ei drethu i chi.

Ni all cyflogwyr na darparwyr pensiwn gymryd mwy na hanner eich cyflog neu bensiwn cyn treth wrth ddefnyddio cod treth K.