Codau treth
Sut i ddiweddaru’ch cod treth
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth yn awtomatig pan fydd eich incwm yn newid. Fel arfer, bydd yr wybodaeth hon yn dod oddi wrth eich cyflogwr.
Os oes gan CThEF yr wybodaeth anghywir am eich incwm, efallai y cewch god treth anghywir.
I gywiro’ch cod treth, gwnewch yn siŵr bod gan CThEF y manylion diweddaraf ynghylch eich incwm.
Gwiriwch beth mae angen i chi ei wneud os oes gennych god treth dros dro.
Os ydych o’r farn bod eich cod treth yn anghywir
Os ydych o’r farn bod eich cod treth yn anghywir, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio’ch Treth Incwm ar-lein i wneud y canlynol:
-
diweddaru’ch manylion cyflogaeth
-
rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch incwm, a allai fod wedi effeithio ar eich cod treth
Er enghraifft, gallwch:
-
ychwanegu buddiannau cwmni
-
ychwanegu incwm neu gyflogwyr sydd ar goll
-
hawlio treuliau cyflogaeth
-
diweddaru eich incwm trethadwy amcangyfrifedig
Efallai y bydd CThEF yn newid eich cod treth o ganlyniad i’r diweddariadau rydych yn eu gwneud drwy’r gwasanaeth ar-lein.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Os ydych yn meddwl bod eich cod treth yn anghywir ac na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch gysylltu â CThEF.
Ar ôl i chi ddiweddaru’ch manylion
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi os bydd yn newid eich cod treth.
Bydd hefyd yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn fod eich cod treth wedi newid.
Dylai’ch slip cyflog nesaf ddangos:
-
eich cod treth newydd
-
addasiadau i’ch cyflog os oeddech yn talu’r swm anghywir o dreth
Os ydych yn cysylltu â CThEF ar ran rhywun arall
Os oes angen i chi roi gwybod i CThEF am newid i incwm rhywun arall (er enghraifft, oherwydd mai chi yw cyfrifydd y person), llenwch ffurflen ymholiadau ynghylch Hysbysiad Cod TWE.
Cael ad-daliad treth neu dalu’r dreth sydd arnoch
Os ydych wedi talu naill ai gormod neu dim digon o dreth ar ddiwedd y flwyddyn dreth, bydd CThEF yn anfon y naill neu’r llall o’r canlynol atoch:
-
llythyr cyfrifiad treth (a elwir yn ‘P800’)