Cofnodion busnes os ydych yn hunangyflogedig

Skip contents

Trosolwg

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o incwm a threuliau eich busnes ar gyfer eich Ffurflen Dreth os ydych yn hunangyflogedig fel:

  • unig fasnachwr
  • partner mewn partneriaeth fusnes

Bydd yn rhaid i chi hefyd gadw cofnodion o’ch incwm personol.

Os mai chi yw’r partner enwebedig (yn agor tudalen Saesneg) mewn partneriaeth, mae’n rhaid i chi hefyd gadw cofnodion ar gyfer y bartneriaeth.

Mae rheolau gwahanol ar gadw cofnodion ar gyfer cwmnïau cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dulliau cyfrifyddu

Bydd yn rhaid i chi ddewis dull cyfrifyddu.

O flwyddyn dreth 2024 i 2025 ymlaen, sail arian parod yw’r dull diofyn o gyfrifo (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi optio allan os ydych am ddefnyddio cyfrifyddu traddodiadol neu os na allwch ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod.

Cyfrifyddu ar sail arian parod

Gall y rhan fwyaf o fusnesau bach ddefnyddio cyfrifyddu sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).

Gyda’r dull hwn, rydych ond yn cofnodi incwm neu dreuliau pan fyddwch yn cael arian neu’n talu bil. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi dalu Treth Incwm ar arian nad ydych eto wedi’i gael yn ystod eich cyfnod cyfrifyddu.

Enghraifft

Gwnaethoch anfon anfoneb at rywun ar 15 Mawrth 2023 ond ni chawsoch yr arian tan 30 Ebrill 2023. Cofnodwch yr incwm hwn ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.

Cyfrifyddu traddodiadol

Mae llawer o fusnesau’n defnyddio cyfrifyddu traddodiadol lle rydych yn cofnodi incwm a threuliau yn ôl y dyddiad y gwnaethoch anfon anfoneb neu a gawsoch eich bilio.

Enghraifft 

Gwnaethoch anfon anfoneb at gwsmer ar 28 Mawrth 2023. Rydych yn cofnodi’r anfoneb honno ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 – hyd yn oed os na chawsoch yr arian tan y flwyddyn dreth nesaf.