Cofnodion busnes os ydych yn hunangyflogedig

Skip contents

Pa gofnodion i’w cadw

Bydd angen i chi gadw cofnodion o’r canlynol:

Pam ydych yn cadw cofnodion

Nid oes rhaid i chi anfon eich cofnodion pan rydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, ond mae’n rhaid i chi eu cadw fel y gallwch wneud y canlynol: 

  • cyfrifo eich elw neu golled ar gyfer eich Ffurflen Dreth
  • eu dangos i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os gofynnir amdanynt

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich cofnodion yn gywir.

Cadw tystiolaeth

Mae mathau o dystiolaeth yn cynnwys:

  • pob derbynneb ar gyfer nwyddau a stoc
  • cyfriflenni banc, bonion llyfr siec
  • anfonebau gwerthiannau, rholiau til a slipiau banc

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol

Yn ogystal â’r cofnodion safonol, bydd rhaid i chi hefyd gadw rhagor o gofnodion fel bod eich Ffurflen Dreth yn cynnwys:

  • yr hyn sy’n ddyledus i chi ond nad ydych wedi’i gael eto
  • yr hyn rydych wedi ymrwymo i’w wario ond nad ydych wedi’i dalu eto, er enghraifft rydych wedi cael anfoneb ond heb ei thalu eto

  • gwerth y stoc a’r gwaith ar y gweill ar ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu
  • eich balans banc ar ddiwedd y flwyddyn
  • faint yr ydych wedi’i fuddsoddi yn y busnes yn ystod y flwyddyn
  • faint o arian yr ydych wedi’i dynnu at eich defnydd eich hun