Cofnodion busnes os ydych yn hunangyflogedig

Skip contents

Pa mor hir y dylech gadw eich cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw eich cofnodion am o leiaf 5 mlynedd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, sef 31 Ionawr yn y flwyddyn dreth berthnasol. Efallai y bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gwirio’ch cofnodion i wneud yn siŵr eich bod yn talu’r swm cywir o dreth.

Enghraifft 

Os gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth 2022 i 2023 ar-lein erbyn 31 Ionawr 2024, mae’n rhaid i chi gadw’ch cofnodion tan o leiaf diwedd mis Ionawr 2029.

Ffurflenni Treth hwyr iawn

Os byddwch yn anfon eich Ffurflen Dreth fwy na 4 blynedd ar ôl y dyddiad cau, bydd angen i chi gadw’ch cofnodion am 15 mis ar ôl i chi anfon eich Ffurflen Dreth.

Os caiff eich cofnodion eu colli, eu dwyn neu eu dinistrio

Os na allwch roi cofnodion newydd yn eu lle, mae’n rhaid i chi wneud eich gorau i ddarparu ffigurau. Rhowch wybod i CThEF pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth os ydych yn defnyddio’r canlynol:

  • ffigurau amcangyfrifedig – rhowch eich amcangyfrif gorau pan na allwch ddarparu’r ffigurau gwirioneddol
  • ffigurau amodol – eich ffigurau amcangyfrifedig dros dro wrth i chi aros am ffigurau gwirioneddol (bydd angen i chi hefyd gyflwyno ffigurau gwirioneddol pan fyddant ar gael)