Y gofrestr etholiadol a'r 'gofrestr agored'
Optio allan o'r ‘gofrestr agored’
Mae dwy fersiwn o’r gofrestr etholiadol - y fersiwn lawn a’r ‘gofrestr agored’ (y ‘gofrestr olygedig’ yw’r enw arni yng Ngogledd Iwerddon).
Os gwnaethoch gofrestru i bleidleisio’n ddienw, ni fydd eich manylion yn ymddangos ar y naill fersiwn na’r llall o’r gofrestr etholiadol. Byddwch yn gallu pleidleisio o hyd.
Sut i optio allan o’r gofrestr agored
Gallwch optio allan o’r gofrestr agored. Y fersiwn hon o’r gofrestr sydd ar gael i bawb sydd am brynu copi.
I optio allan, gallwch naill ai:
- ddefnyddio’r gwasanaeth cofrestru i bleidleisio (hyd yn oed os ydych eisoes wedi cofrestru)
- cysylltu â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- cysylltu â Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon (EONI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Ni fydd optio allan yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.
Os byddwch yn optio allan o’r gofrestr agored, bydd eich manylion yn ymddangos yn y fersiwn lawn o’r gofrestr etholiadol o hyd, oni bai eich bod wedi’ch cofrestru i bleidleisio’n ddienw.
Y fersiwn lawn ac at ba ddibenion y gellir ei defnyddio
Mae enw a chyfeiriad pawb yn ymddangos ar y fersiwn lawn o’r gofrestr etholiadol (oni bai eich bod wedi cofrestru i bleidleisio’n ddienw), ac ni allwch optio allan. Y fersiwn hon o’r gofrestr gaiff ei defnyddio ar gyfer etholiadau a refferenda.
Dim ond at y dibenion canlynol y gellir defnyddio’r fersiwn lawn o’r gofrestr:
-
dibenion gweinyddu etholiadau (megis anfon cardiau pleidleisio cyn etholiadau)
-
gweithgareddau ymgyrchu (er enghraifft, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol yn anfon gohebiaeth am etholiadau at bleidleiswyr, yn casglu barn drwy arolygon neu’n codi arian)
-
atal a chanfod troseddau
-
gwirio ceisiadau am fenthyciadau neu gredyd
-
gwysio rheithgor yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Gallwch ddysgu mwy am y gwahaniaeth rhwng y gofrestr agored a’r gofrestr etholiadol ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.