Sut i bleidleisio
Trosolwg
Mae angen i chi fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio cyn y gallwch bleidleisio mewn etholiadau neu refferenda yn y DU.
Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol mewn rhai etholiadau a refferenda yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Cadarnhewch ym mha etholiadau y mae angen ID ffotograffig arnoch a pha fathau o ID y gallwch eu defnyddio cyn i chi fynd i bleidleisio.
Mae rheolau gwahanol os byddwch yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Eich cymhwystra i bleidleisio
Bydd p’un a ydych yn gymwys i bleidleisio yn dibynnu ar y canlynol:
- eich oedran
- eich cenedligrwydd
- ble rydych yn byw
- p’un a ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio
Mae gan etholiadau a refferenda gwahanol yn y DU reolau gwahanol o ran pwy all bleidleisio. Mae hyn yn golygu na all pawb bleidleisio ym mhob sefyllfa.
Dysgwch fwy am etholiadau gwahanol a chadarnhewch a ydych yn gymwys i bleidleisio.
Ffyrdd o bleidleisio
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch wneud y canlynol:
- pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio
- gwneud cais i bleidleisio drwy’r post
- gwneud cais i gael rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan (pleidleisio drwy ddirprwy)
Ni allwch bleidleisio ar-lein mewn unrhyw etholiadau.