Pleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun arall

Mae’n bosibl y gofynnir i chi bleidleisio ar ran rhywun arall os na fydd yr unigolyn hwnnw yn gallu pleidleisio yn bersonol. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.

Er mwyn bod yn ddirprwy, rhaid i chi fodloni’r canlynol:

Ar ran pwy y gallwch weithredu fel dirprwy

Gallwch fod yn ddirprwy ar gyfer naill ai:

  • hyd at ddau berson 
  • hyd at bedwar person os bydd o leiaf ddau ohonynt wedi’u cofrestru i bleidleisio o dramor

Pleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun sydd wedi cofrestru i bleidleisio i bleidleisio o dramor 

Bydd y person rydych yn gweithredu fel dirprwy ar ei ran wedi cofrestru i bleidleisio o dramor os yw naill ai: 

  • yn ddinesydd Prydeinig sy’n byw dramor (a elwir yn ‘bleidleisiwr tramor’
  • yn byw dramor oherwydd gwaith i’r lluoedd arfog neu’r Llywodraeth (a elwir yn ‘bleidleisiwr yn y lluoedd arfog’)

Pleidleiswyr yn y lluoedd arfog

Bydd pleidleiswyr yn y lluoedd arfog yn gwneud ‘datganiad gwasanaeth’ pan fyddant yn cofrestru i bleidleisio. Mae’n rhaid iddynt fod naill ai: 

Pleidleisio drwy ddirprwy yn bersonol

Cyn i chi bleidleisio, dylech gael gwybod pa ymgeisydd (neu ganlyniad refferendwm) y mae’r unigolyn am bleidleisio ar ei gyfer.

Bydd angen i chi bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio y mae’r unigolyn rydych yn ddirprwy ar ei ran yn pleidleisio ynddi fel arfer. Efallai y bydd yr orsaf bleidleisio hon yn wahanol i’r orsaf bleidleisio rydych chi’n pleidleisio ynddi.

Os nad ydych yn gwybod pa orsaf bleidleisio y dylech fynd iddi, cysylltwch â Swyddfa Cofrestru Etholiadol y person rydych yn ddirprwy ar ei gyfer. 

Efallai y bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn rhai etholiadau. Cadarnhewch pa ID ffotograffig y bydd ei angen arnoch. Nid oes angen i chi ddangos ID yr unigolyn rydych yn ddirprwy ar ei ran.

Os na allwch gyrraedd gorsaf bleidleisio yr unigolyn rydych yn gweithredu fel dirprwy ar ei gyfer

Gallwch wneud cais i bleidleisio fel dirprwy drwy’r post.

Bydd angen i chi gysylltu â Swyddfa Cofrestru Etholiadol yr unigolyn rydych yn gweithredu fel dirprwy ar ei gyfer i gael ffurflen gais er mwyn pleidleisio fel dirprwy drwy’r post. Ni allwch gael gafael ar y ffurflen hon ar-lein.