Pleidleisio os byddwch yn symud dramor neu os ydych yn byw dramor
Gallwch gofrestru fel pleidleisiwr tramor os ydych wedi byw yn y DU yn flaenorol a’ch bod naill ai:
- yn ddinesydd Prydeinig
- yn ddinesydd Gwyddelig cymwys sy’n cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban cofrestru i bleidleisio yn y ffordd arferol.
Os ydych am bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi gofrestru gan ddefnyddio ffurflen bapur.
Mae trefniadau gwahanol os byddwch dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Adnewyddu eich cofrestriad
Bydd eich cofrestriad yn para hyd at dair blynedd. Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu.
Os na fyddwch yn adnewyddu eich cofrestriad, byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y gofrestr a bydd yn rhaid i chi gwblhau cais o’r newydd er mwyn gallu pleidleisio eto.
Pleidleisio os ydych wedi’ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor
Gallwch bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu pleidleisio mewn refferenda. Mae gan bob refferendwm reolau gwahanol o ran pwy all bleidleisio ynddo.
Os ydych wedi’ch cofrestru yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
Gallwch benderfynu a ydych am bleidleisio drwy ddirprwy (os ydych yn gymwys) neu bleidleisio drwy’r post.
Ar ôl i chi benderfynu, gallwch wneud y canlynol:
- gwneud cais ar-lein am bleidlais bost
- gwneud cais drwy’r post am bleidlais bost
- gwneud cais ar-lein am bleidlais drwy ddirprwy
- gwneud cais drwy’r post am bleidlais drwy ddirprwy
Os ydych wedi’ch cofrestru yng Ngogledd Iwerddon
Gallwch bleidleisio drwy ddirprwy, os ydych yn gymwys. Mae angen i chi wneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur.
Ni chewch bleidleisio drwy’r post.
Gwasanaethu dramor yn y lluoedd arfog
Cofrestrwch i bleidleisio gan ddefnyddio gwasanaeth cofrestru’r lluoedd arfog.
Os ydych yn gwasanaethu y tu allan i’r DU, gallwch gofrestru fel pleidleisiwr ‘yn y lluoedd arfog’. Mae hyn yn golygu mai dim ond unwaith bob pum mlynedd y mae’n rhaid i chi adnewyddu eich cofrestriad. Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu.
Gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council
Defnyddiwch y gwasanaeth cofrestru ar gyfer gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council os ydych wedi’ch lleoli y tu allan i’r DU ac yn gweithio fel:
- un o weision y Goron (er enghraifft, gwasanaeth sifil tramor neu wasanaeth diplomyddol)
- aelod o staff y British Council