Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy

Gallwch gael rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan (dirprwy) os na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio eich hun.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yn y canlynol: 

  • etholiadau cyffredinol ac etholiadau eraill Senedd y DU os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban 
  • etholiadau lleol yn Lloegr (gan gynnwys meiri) 
  • etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr 
  • refferenda cenedlaethol os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban 
  • deisebau adalw Aelodau Seneddol os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

Rhaid i chi a’ch dirprwy fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio yn y DU cyn y gallwch wneud cais.

Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio’n ddienw (mae hyn yn golygu nad yw eich enw na’ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol), gwnewch gais am eich pleidlais drwy ddirprwy drwy eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Gofynnwch am ganiatâd eich dirprwy cyn gwneud cais.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol neu unrhyw ddogfen adnabod arall, er enghraifft, tystysgrif geni
  • y cyfeiriad lle mae eich dirprwy wedi’i gofrestru i bleidleisio
  • manylion cyswllt eich dirprwy

Bydd angen i chi lanlwytho llun o’ch llofnod yn eich llawysgrifen eich hun hefyd mewn inc du ar bapur gwyn plaen.

Os na allwch ddarparu llofnod neu lofnod sydd bob amser yn edrych yr un peth, mae’n bosibl y gallwch wneud cais i hepgor y llofnod ar gyfer eich pleidlais drwy ddirprwy o fewn y gwasanaeth.

Os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Mae’r rheolau yn wahanol os ydych am wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer pob etholiad.

Mae ffordd wahanol o wneud cais ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, Senedd yr Alban ac etholiadau lleol yng Nghymru a’r Alban gan ddefnyddio ffurflen bapur.

Os ydych yn byw dramor

Os hoffech bleidleisio drwy ddirprwy a’ch bod yn byw dramor, dylech wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy cyn gynted â phosibl.

Newid neu ddiweddaru eich pleidlais drwy ddirprwy

I newid neu ddiweddaru pwy sy’n gweithredu fel eich dirprwy neu i ddechrau pleidleisio yn bersonol, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol. Mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad fan bellaf ac erbyn 5pm ar y diwrnod hwnnw.

Rhoi’r gorau i bleidleisio drwy ddirprwy 

Os nad ydych am bleidleisio drwy ddirprwy mwyach a’ch bod am bleidleisio drwy’r post yn lle hynny, gwnewch gais am bleidlais bost. Mae’n rhaid i chi wneud cais 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad fan bellaf ac erbyn 5pm ar y diwrnod hwnnw.

Os ydych am bleidleisio’n bersonol yn lle hynny, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol. Mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad fan bellaf ac erbyn 5pm ar y diwrnod hwnnw.

Newid o bleidlais bost i bleidlais drwy ddirprwy

Os nad ydych am bleidleisio drwy’r post a’ch bod am bleidleisio drwy ddirprwy yn lle hynny, gwnewch gais am bleidlais drwy ddirprwy. Mae’n rhaid i chi wneud cais 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad fan bellaf ac erbyn 5pm ar y diwrnod hwnnw. 

Ffyrdd eraill o wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy

Os na allwch wneud cais ar-lein, lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais i bleidleisio drwy ddirprwy. Dylech ei hanfon i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol os:

  • nad ydych yn gallu argraffu copi o’r ffurflen gais i bleidleisio drwy ddirprwy
  • nad ydych yn gallu llofnodi ffurflen wedi’i hargraffu

Os byddwch yn colli’r dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy cyn etholiad, mae’n bosibl y gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.

Cael help i wneud cais

Mae canllaw hawdd ei ddeall am wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar-lein.