Gwneud cais i bleidleisio drwy’r post
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais i bleidleisio drwy’r post yn:
- etholiadau cyffredinol ac etholiadau eraill Senedd y DU
- etholiadau lleol yn Lloegr (gan gynnwys meiri)
- etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
- refferenda
- deisebau adalw Aelodau Seneddol
Rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU cyn y gallwch wneud cais.
Os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio’n ddienw, dylech wneud cais am eich pleidlais bost drwy eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.
Mae ffordd wahanol o wneud cais:
- yng Ngogledd Iwerddon
- ar gyfer Senedd Cymru, Senedd yr Alban ac etholiadau lleol yng Nghymru a’r Alban gan ddefnyddio ffurflen bapur
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y canlynol arnoch:
- y cyfeiriad lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio
- eich rhif Yswiriant Gwladol neu ddogfennau adnabod eraill, er enghraifft, pasbort
- dyddiad penodol yr etholiad neu’r refferendwm yr hoffech gael pleidlais drwy’r post ar ei gyfer, os mai dim ond unwaith yr hoffech gael pleidlais drwy’r post
Bydd angen i chi lanlwytho llun o’ch llofnod yn eich llawysgrifen eich hun mewn inc du ar bapur gwyn plaen.
Os na allwch ddarparu llofnod neu lofnod sydd bob amser yn edrych yr un peth, mae’n bosibl y gallwch wneud cais i hepgor y llofnod ar gyfer eich pleidlais drwy’r post o fewn y gwasanaeth.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi am ddogfennau ychwanegol i gadarnhau eich manylion.
Ffyrdd eraill o wneud cais
Os na allwch wneud cais ar-lein, lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais i bleidleisio drwy’r post. Anfonwch y ffurflen i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.
Cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol a all bostio ffurflen bapur atoch.
Os na allwch lofnodi ffurflen bapur, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol