Pleidleisio drwy'r post

Mae’n rhaid i chi wneud cais am bleidlais bost os ydych chi am bleidleisio drwy’r post, er enghraifft:

  • os ydych oddi cartref
  • os ydych dramor ac am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

Nid oes angen i chi roi rheswm oni bai eich bod yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon. 

Gwneud cais am bleidlais bost

Gallwch wneud cais am bleidlais bost ar gyfer un o’r canlynol:

  • etholiad unigol ar ddyddiad penodol
  • cyfnod penodol os ydych am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  • hyd at dair blynedd

Gallwch wneud y canlynol:

Mae ffurflen wahanol os ydych yn gwneud cais am bleidlais bost yng Ngogledd Iwerddon.

Ar ôl i chi wneud cais, caiff pecyn pleidleisio drwy’r post ei anfon atoch yn cynnwys papur pleidleisio a datganiad pleidleisio drwy’r post. 

Newid i ble caiff eich pecyn pleidleisio drwy’r post ei anfon

Dylech wneud cais newydd am bleidlais bost os byddwch yn symud tŷ neu os byddwch oddi cartref pan gaiff y pecyn pleidleisio drwy’r post ei anfon. 

Mae ffurflen wahanol os ydych yn gwneud cais am bleidlais bost yng Ngogledd Iwerddon.

Cwblhau a dychwelyd eich pecyn pleidleisio drwy’r post

Pan fyddwch yn pleidleisio drwy’r post, dylech wneud y canlynol:

  • marcio eich pleidlais ar eich papur pleidleisio yn gyfrinachol 
  • llenwi’r datganiad pleidleisio drwy’r post
  • rhoi’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio drwy’r post yn yr amlen a ddarperir
  • selio’r amlen eich hun

Dylech ddychwelyd eich pecyn pleidleisio drwy’r post cyn gynted â phosibl er mwyn gwneud yn siŵr bod eich pleidlais bost yn cael ei chyfrif.

Os ydych yn rhy hwyr i bostio eich pecyn pleidleisio drwy’r post 

Yng Nghymru a Lloegr

Ewch â’ch papur pleidleisio a’ch datganiad pleidleisio drwy’r post i’ch gorsaf bleidleisio erbyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad neu i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol cyn iddi gau.

Caiff eich pleidlais ei gwrthod os na fyddwch yn rhoi eich papur pleidleisio i aelod o’r staff yn yr orsaf bleidleisio neu’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol ac yn cwblhau ffurflen. 

Peidiwch â phostio eich papur pleidleisio drwy flwch llythyrau’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Gallwch gyflwyno: 

  • eich pecyn pleidleisio drwy’r post eich hun wedi’i gwblhau
  • pecynnau pleidleisio drwy’r post wedi’u cwblhau ar gyfer hyd at bum pleidleisiwr arall

Os ydych yn ymgyrchydd gwleidyddol, rhaid i’r pum pleidleisiwr arall fod yn aelodau o’ch teulu neu’n bobl rydych yn darparu gofal rheolaidd iddynt.

Yn yr Alban

Dylech ddychwelyd eich pecyn pleidleisio drwy’r post wedi’i gwblhau i’r swyddog canlyniadau yn eich cyngor cyn iddo gau. Dod o hyd i’ch cyngor.

Yng Ngogledd Iwerddon

Os byddwch yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, dim ond mewn Swyddfa Cofrestru Etholiadol y gallwch gyflwyno eich pecyn pleidleisio drwy’r post wedi’i gwblhau. 

Cael papur pleidleisio newydd yn lle un sydd wedi’i ddifrodi neu ar goll

Mae angen i’ch papur pleidleisio ddangos eich manylion a’ch pleidlais yn glir. Os bydd wedi’i ddifrodi, bydd angen i chi gael un arall.

Gallwch naill ai:

Ni chewch bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio os byddwch wedi cofrestru i bleidleisio drwy’r post ond bod eich papur pleidleisio yn mynd ar goll neu’n cael ei ddifrodi wedi hynny.