ID ffotograffig y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol mewn rhai etholiadau neu refferenda yn y DU. 

Bydd ei angen arnoch i bleidleisio yn y canlynol:

  • etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol ac is-etholiadau 
  • deisebau adalw ar gyfer Aelodau Seneddol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
  • etholiadau lleol yn Lloegr (gan gynnwys cynghorau, meiri, Awdurdod Llundain Fwyaf a phlwyfi)
  • etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
  • refferenda cynllunio cymdogaethau yn Lloegr
  • refferenda mewn awdurdodau lleol yn Lloegr (gan gynnwys refferenda am gynyddu’r Dreth Gyngor)

Cadarnhau bod gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Mae’n rhaid i chi ddangos y fersiwn wreiddiol o’ch ID ffotograffig. Ni allwch ddefnyddio ffotograff, delwedd ar ffôn na llungopi o’ch ID. 

Mae’n rhaid i’r llun ar eich ID edrych fel chi. Gallwch ddefnyddio eich ID hyd yn oed os na fydd y dyddiad yn ddilys bellach.

Bydd angen un o’r mathau canlynol o ID ffotograffig arnoch i bleidleisio:

  • trwydded yrru cerdyn-llun ar gyfer y DU neu Ogledd Iwerddon (llawn neu dros dro)
  • trwydded yrru a gyflwynwyd gan wlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Ynys Manaw neu unrhyw un o Ynysoedd y Sianel
  • pasbort y DU
  • pasbort a gyflwynwyd gan wlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu un o wledydd y Gymanwlad
  • cerdyn PASS (Cynllun Safonau Prawf Oedran Cenedlaethol)
  • Bathodyn Glas
  • trwydded preswylio fiometrig
  • Cerdyn Adnabod Amddiffyn (Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn)
  • cerdyn adnabod cenedlaethol a gyflwynwyd gan wlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
  • Cerdyn Adnabod Etholiadol Gogledd Iwerddon
  • Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
  • Dogfen Etholwr Dienw

Gallwch hefyd ddefnyddio un o’r cardiau teithio canlynol fel ID ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio:

Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig sy’n caniatáu i chi bleidleisio, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim. Dogfen bapur yw Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr sy’n dangos eich llun a gellir ei defnyddio i brofi pwy ydych chi pan fyddwch yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. 

Gallwch naill ai:

Os byddwch yn pleidleisio fel dirprwy rhywun

Bydd angen i chi fynd â’ch ID eich hun pan fyddwch yn mynd i bleidleisio ar ran rhywun arall. Nid oes angen i chi fynd ag ID yr unigolyn.

Os ydych wedi newid eich enw

Mae’n rhaid i’r enw ar eich ID gyfateb i’ch enw ar y gofrestr etholiadol. Os nad yw’n cyfateb, bydd angen i chi wneud un o’r pethau canlynol:

  • cofrestru i bleidleisio eto gyda’ch manylion newydd
  • mynd â dogfen gyda chi i bleidleisio sy’n profi eich bod wedi newid eich enw (er enghraifft, tystysgrif priodas)

Nid yw gwahaniaethau bach yn bwysig. Er enghraifft, os yw eich ID yn dweud ‘Jim Smith’ yn hytrach na ‘James Smith’.