Sut i bleidleisio
Pleidleisio yn bersonol
Rydych yn pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio (mewn adeilad cyhoeddus fel arfer, megis ysgol neu neuadd leol).
Eich cerdyn pleidleisio
Caiff cerdyn pleidleisio ei anfon atoch cyn etholiad neu refferendwm yn dweud wrthych pryd i bleidleisio ac ym mha orsaf bleidleisio.
Dim ond yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn y gallwch bleidleisio.
Os nad ydych wedi cael cerdyn pleidleisio ond rydych yn meddwl y dylech, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.
Gallwch dal bleidleisio os byddwch wedi colli eich cerdyn pleidleisio. Nid oes rhaid i chi fynd â’ch cerdyn gyda chi i bleidleisio.
Os nad yw eich cerdyn gennych a bod angen i chi gadarnhau pa orsaf bleidleisio y dylech fynd iddi, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.
Pryd y gallwch bleidleisio
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod etholiad (‘y diwrnod pleidleisio’).
Pan fyddwch yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio
Rhowch eich enw a’ch cyfeiriad i’r staff yn yr orsaf bleidleisio pan fyddwch yn cyrraedd.
Bydd angen i chi ddangos eich ID ffotograffig er mwyn cadarnhau pwy ydych chi mewn rhai etholiadau a refferenda.
Byddwch yn cael papur pleidleisio â rhestr o’r bobl, y pleidiau neu’r opsiynau y gallwch bleidleisio drostynt.
Llenwi eich papur pleidleisio
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr hysbysiadau yn y bwth bleidleisio ac ar frig y papur pleidleisio er mwyn bwrw eich pleidlais.
Pleidleisio os oes gennych anabledd
Os oes gennych anabledd, gall eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol roi gwybodaeth am y canlynol i chi:
- mynediad ffisegol, er enghraifft rampiau ar gyfer cadeiriau olwyn a lleoedd parcio i bobl anabl
- bythau pleidleisio lefel isel
- unrhyw gyfarpar penodol sydd ei angen arnoch
Mae’n rhaid i bob gorsaf bleidleisio ddarparu o leiaf un fersiwn print bras o’r papur pleidleisio.