Cofrestru i bleidleisio (gweision y goron a chyflogeion y British Council)

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i sicrhau eich bod ar y gofrestr etholiadol neu i ddiweddaru eich manylion os ydych yn gweithio dramor fel:

  • un o weision y goron (er enghraifft, y gwasanaeth diplomyddol neu’r gwasanaeth sifil tramor)
  • un o gyflogeion y British Council
  • gŵr/gwraig neu bartner sifil un o weision y goron neu un o gyflogeion y British Council

Gallwch wneud hyn cyn i chi adael neu os ydych dramor eisoes.

Gallwch bleidleisio pan fyddwch yn 18 oed neu drosodd.

Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn yr Alban, gallwch bleidleisio mewn rhai etholiadau pan fyddwch yn 16 oed neu drosodd – edrychwch pa etholiadau rydych yn gymwys i bleidleisio ynddynt.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Cofrestrwch ar-lein

Mae cofrestru yn cymryd tua 5 munud.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol neu unrhyw ddogfen adnabod arall, er enghraifft, pasbort
  • eich cyflogres neu rif adnabod staff (y gellir dod o hyd iddo ar eich slip cyflog fel rheol)

Bydd eich cofrestriad yn para hyd at 12 mis. Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu. Os na fyddwch yn adnewyddu eich cofrestriad, byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y gofrestr a bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio eto.

Dechrau nawr

Beth mae angen i chi wybod

Gallwch hefyd gofrestru i bleidleisio drwy ddefnyddio ffurflen bapur.

Gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy

Ar ôl i chi gofrestru, gallwch naill ai:  

Os ydych yn byw mewn gwlad arall ac yn dewis gwneud cais am bleidlais drwy’r post, dylech wneud cais cyn gynted â phosibl. Gall gymryd amser hir i’ch pecyn pleidleisio drwy’r post eich cyrraedd ac iddo gael ei ddychwelyd i’r DU.

Plant i weision y goron neu gyflogeion y British Council

Mae rheolau gwahanol yn gymwys, yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU.

Os ydych yn hanu o Loegr neu Ogledd Iwerddon

Os ydych yn 16 oed neu drosodd, gallwch naill ai:

Os ydych yn hanu o Gymru neu’r Alban

Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn bodloni’r ddau ofyniad isod:

  • rydych rhwng 14 a 17 oed

  • rydych wedi eich lleoli tramor ac yn byw gyda rhiant neu warcheidwad sy’n un o weision y goron neu yn un o gyflogeion y British Council

Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio drwy ddefnyddio ffurflen bapur fel plentyn i un o weision y goron neu un o gyflogeion y British Council.

Pan fyddwch yn 18 oed neu drosodd, bydd angen i chi naill ai:

Bydd eich cofrestriad yn para hyd at 12 mis. Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu.

Os ydych yn y lluoedd arfog

Mae ffordd wahanol i gofrestru i bleidleisio os ydych yn aelod o’r lluoedd arfog.