Cofrestru i bleidleisio (y lluoedd arfog)
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i sicrhau eich bod ar y gofrestr etholiadol neu i ddiweddaru eich manylion os ydych wedi’ch adleoli dramor a’ch bod yn:
- aelod o’r lluoedd arfog
- gŵr/gwraig neu bartner sifil i rywun yn y lluoedd arfog
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Cofrestrwch ar-lein
Mae cofrestru yn cymryd tua 5 munud.
Bydd angen eich rhif gwasanaeth a’ch rhif Yswiriant Gwladol arnoch (os oes gennych un).
Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru – nid oes angen i chi gofrestru ar wahân ar gyfer pob etholiad.
Bydd eich cofrestriad yn para hyd at 5 mlynedd. Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu. Os na fyddwch yn adnewyddu eich cofrestriad, byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y gofrestr a bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio eto.
Beth mae angen i chi wybod
Gallwch bleidleisio pan fyddwch yn 18 oed neu drosodd. Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn yr Alban, gallwch bleidleisio mewn rhai etholiadau pan fyddwch yn 16 oed neu drosodd – edrychwch pa etholiadau rydych yn gymwys i bleidleisio ynddynt.
Gallwch hefyd gofrestru i bleidleisio drwy ddefnyddio ffurflen bapur.
Os oes gennych gyfeiriad cartref parhaol yn y DU ac am gael eich cofrestru yn y cyfeiriad hwnnw, gallwch gofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr nad yw yn y lluoedd arfog yn lle hynny.
Gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy
Ar ôl i chi gofrestru, gallwch naill ai:
Os ydych yn byw mewn gwlad arall ac yn dewis gwneud cais am bleidlais drwy’r post, dylech wneud cais cyn gynted â phosibl. Gall gymryd amser hir i’ch pecyn pleidleisio drwy’r post eich cyrraedd ac iddo gael ei ddychwelyd i’r DU.
Plant i aelod o’r lluoedd arfog
Mae rheolau gwahanol yn gymwys, yn dibynnu o ble rydych yn hanu.
Os ydych yn hanu o Loegr neu Ogledd Iwerddon
Os ydych yn 16 oed neu drosodd, gallwch naill ai:
-
cofrestru i bleidleisio yn y DU os oes gennych gyfeiriad cartref parhaol yn y DU ac am gael eich cofrestru yn y cyfeiriad hwnnw
-
cofrestru fel pleidleisiwr tramor os ydych yn byw y tu allan i’r DU
Os ydych yn hanu o Gymru neu’r Alban
Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn bodloni’r ddau ofyniad isod:
- rydych rhwng 14 a 17 oed
- rydych wedi eich lleoli dramor ac yn byw gyda rhiant neu warcheidwad sy’n aelod o’r lluoedd arfog
Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio drwy ddefnyddio ffurflen bapur fel plentyn i aelod o’r lluoedd arfog.
Bydd eich cofrestriad yn para hyd at 12 mis. Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu.
Os ydych yn 18 oed neu drosodd, bydd angen i chi naill ai:
Os ydych yn un o weision y goron neu gyflogeion y British Council
Mae ffordd wahanol i gofrestru i bleidleisio ar gyfer gweision y goron a chyflogeion y British Council. Er enghraifft, os ydych yn rhan o’r gwasanaeth diplomyddol neu’r gwasanaeth sifil tramor.