Cofrestru tir neu eiddo gyda Chofrestrfa Tir EF

Skip contents

Trosglwyddo perchnogaeth eich eiddo

Rhaid ichi ddweud wrth Gofrestrfa Tir EF pan fyddwch yn newid perchennog cofrestredig eich eiddo, ee os ydych yn ei drosglwyddo i enw rhywun arall, neu os ydych am ychwanegu eich partner fel cydberchennog.

  1. Llwythwch i lawr a llenwch gais i newid y gofrestr.

  2. Llenwch naill ai ffurflen ‘trosglwyddo teitl cofrestredig cyfan’, os ydych yn trosglwyddo eich eiddo cyfan, neu ffurflen ‘trosglwyddo rhan o deitl cofrestredig’ os ydych yn trosglwyddo rhan o’ch eiddo yn unig.

  3. Llenwch dystysgrif hunaniaeth ar gyfer unigolyn preifat.

  4. Dewiswch y ffi gywir.

  5. Anfonwch eich dogfennau, ffurflenni a’r ffi i Gofrestrfa Tir EF.