Trosolwg

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo hirdymor sy’n rhydd o dreth ar gyfer plant a aned rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011.

Dod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant fel rhiant, neu os ydych chi dros 16 oed.

Daeth y cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i ben yn 2011. Gallwch wneud cais am ISA ar gyfer Plant Iau (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.

Ni allwch gael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn ogystal ag ISA ar gyfer Plant Iau. Os byddwch yn agor cyfrif ISA ar gyfer Plant Iau, gofynnwch i’r darparwr drosglwyddo cynnwys y Gronfa Ymddiriedolaeth iddo.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Talu i mewn i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Gallwch barhau i ychwanegu hyd at £9,000 y flwyddyn at gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant sy’n bodoli eisoes. Mae’r arian yn eiddo i’r plentyn, a gall y plentyn dim ond ei dynnu o’r cyfrif pan fydd yn troi’n 18 oed. Gall y plentyn gymryd rheolaeth dros y cyfrif pan fydd yn troi’n 16 oed.

Nid oes treth i’w thalu ar incwm Cronfa Ymddiriedolaeth Plant nac ar unrhyw elw y mae’n ei gwneud. Ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth a gewch.