Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Rheoli’r cyfrif
Os mai chi yw’r prif gyswllt ar gyfer cyfrif y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, chi yw’r ‘cyswllt cofrestredig’. Mae gennych rai cyfrifoldebau tan fydd y plentyn yn 18 oed, neu tan fydd y plentyn yn cymryd rheolaeth dros ei gyfrif ei hun.
Eich cyfrifoldebau fel y cyswllt cofrestredig
Chi yw’r unig berson sy’n gallu:
- rhoi gwybod i ddarparwr y cyfrif sut mae buddsoddi’r gronfa a rhedeg y cyfrif
- newid y cyfeiriad a manylion personol eraill
- newid y math o gyfrif, er enghraifft o arian i stociau a chyfranddaliadau
- symud y cyfrif i ddarparwr arall
Cysylltwch â darparwr eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i wneud hyn.
Symud i gyfrif gwahanol
Gallwch drosglwyddo cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i ISA ar gyfer Plant Iau. Cysylltwch â darparwr ISA ar gyfer Plant Iau i wneud hyn.
Cofnodion y mae angen i chi eu cadw
Cadwch y gwaith papur canlynol:
- Cyfeirnod Unigryw eich plentyn (mae hwn i’w weld ar eich cyfriflen Cronfa Ymddiriedolaeth Plant flynyddol)
- cyfriflenni’r cyfrif
- manylion y math o gyfrif a’r darparwr
Newid cyswllt cofrestredig
Gallwch newid y cyswllt cofrestredig i rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant (yn agor tudalen Saesneg) dros y plentyn, fel rhiant, llys-riant neu warcheidwad cyfreithiol os yw’r ddau barti’n cytuno i hyn.
Gall darparwr eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant roi gwybod i chi sut mae newid y cyswllt cofrestredig ar gyfer cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.
Pan fydd eich plentyn yn troi’n 16
Pan fydd eich plentyn yn troi’n 16 oed, gall naill ai:
- bod yn gyfrifol am y cyfrif drwy gysylltu â darparwr y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
- eich gadael chi i fod yn gyfrifol am y cyfrif