Dod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Cysylltwch â darparwr eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn uniongyrchol os ydych chi’n gwybod gyda phwy mae’r cyfrif.

Os nad ydych yn gwybod enw’r darparwr, gallwch ofyn i’ch rhiant neu’ch gwarcheidwad.

Gallwch hefyd ofyn i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ddod o hyd i ddarparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Gall CThEF roi gwybod i chi ble agorwyd y cyfrif yn wreiddiol.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch. Bydd hefyd angen eich manylion mabwysiadu arnoch, os yw’n berthnasol.

Os ydych yn rhiant neu’n warcheidwad sy’n chwilio am gronfa ymddiriedolaeth plentyn, bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw llawn, cyfeiriad, a dyddiad geni’r plentyn
  • unrhyw enwau blaenorol a ddefnyddiwyd gennych chi neu’r plentyn

Gallwch gynnwys rhif Yswiriant Gwladol y plentyn, os yw hwnnw gennych.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen ar un tro – ni allwch ei chadw er mwyn dod yn ôl ati yn nes ymlaen.

Gofyn i CThEF ddod o hyd i ddarparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Defnyddiwch yr offeryn hwn i ofyn i CThEF ddod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Ni fydd yn rhoi gwybod i chi faint o arian sydd yn y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Gallwch ofyn i CThEF os ydych:

  • yn 16 oed, neu’n hŷn, ac yn chwilio am eich cronfa ymddiriedolaeth
  • yn rhiant neu’n warcheidwad i blentyn sydd o dan 18 oed

Dechrau nawr

Mae gwasanaethau eraill ar gael sy’n rhad ac am ddim y gallwch eu defnyddio i ddod o hyd i ddarparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, megis y Share Foundation (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwch yn cael llythyr oddi wrth CThEF yn nodi manylion y darparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Byddwch fel arfer yn cael hwn cyn pen 3 wythnos i’ch cais ddod i law CThEF, os byddwch yn gwneud cais ar-lein. Bydd ceisiadau drwy’r post yn cymryd mwy o amser.

Os na fyddwch yn cael ymateb cyn pen 6 wythnos, gallwch ysgrifennu at CThEF. Cofiwch gynnwys eich cyfeirnod, os oes gennych un.

Ysgrifennwch i’r cyfeiriad isod:

 
Elusennau, Cynilion a Rhyngwladol 1 / Charities, Savings and International 1 
CThEF 
BX9 1AU