Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol: arweiniad i gyflogwyr
Cyfnod rhybudd
Mae’r cyfnodau rhybudd a’r ffurflenni’n wahanol os bydd y cyflogai’n mabwysiadu.
Absenoldeb Tadolaeth Statudol
Ar gyfer babis a ddisgwylir ar neu cyn 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i gyflogeion roi gwybod i chi am y canlynol o leiaf 15 wythnos cyn y disgwylir y babi:
-
y dyddiad disgwyl
-
pryd y maent eisiau dechrau eu habsenoldeb
-
faint o absenoldeb maent am ei gael
Ar gyfer babis a ddisgwylir ar ôl 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i gyflogeion roi gwybod i chi am y diwrnod disgwyl o leiaf 15 wythnos cyn y disgwylir y babi. Mae’n rhaid iddynt ddweud wrthych pryd y maent eisiau dechrau eu habsenoldeb, a faint o absenoldeb y maent am ei gymryd, o leiaf 28 diwrnod ymlaen llaw.
Nid oes raid i rybudd fod yn ysgrifenedig oni bai eich bod yn gofyn am hynny.
Gall cyflogeion ofyn am absenoldeb a thâl yn ysgrifenedig drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein (yn agor tudalen Saesneg). Mae hon yn disodli ffurflen SC3. Bydd angen i gyflogeion lawrlwytho neu argraffu’r ffurflen ar ôl ei llenwi a rhoi copi i chi.
Tâl Tadolaeth Statudol
Mae’n rhaid i gyflogeion hawlio tâl tadolaeth o leiaf 15 wythnos cyn wythnos y disgwylir y babi.
Nid oes raid i rybudd fod yn ysgrifenedig oni bai eich bod yn gofyn am hynny.
Gall cyflogeion ofyn am absenoldeb a thâl yn ysgrifenedig drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).
Gall cyflogeion sy’n cael babi drwy drefniant mam fenthyg hefyd ddefnyddio’r ffurflen ar-lein. Mae hon yn disodli ffurflen SC4.
Bydd angen i gyflogeion lawrlwytho neu argraffu’r ffurflen ar ôl ei llenwi a rhoi copi i chi.
Rhybudd hwyr
Gallwch oedi dyddiad dechrau’r absenoldeb neu’r tâl os nad oes gan y cyflogai esgus rhesymol dros beidio â rhoi rhybudd digonol i chi. Er mwyn oedi’r dyddiad, ysgrifennwch ato cyn pen 28 diwrnod i’w gais am absenoldeb.