Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol: arweiniad i gyflogwyr
Cadw Cofnodion
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion ar gyfer Cyllid a Thollau EF (CThEF), gan gynnwys:
- dyddiad dechrau’r Tâl Tadolaeth Statudol
- y taliadau tadolaeth rydych wedi’u gwneud (gan gynnwys dyddiadau)
- y taliadau rydych wedi’u hadennill
- unrhyw wythnosau na wnaethoch dalu a pham
- os yw’n mabwysiadu, llythyr gan yr asiantaeth fabwysiadu neu dystysgrif baru
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi, (er enghraifft drwy ddefnyddio ffurflen SPP2 (yn agor tudalen Saesneg) neu drwy gadw’ch cofnodion eich hun).