Cael help ariannol gyda thâl statudol

Skip contents

Yr hyn y gallwch ei adennill

Fel cyflogwr, fel arfer gallwch adennill 92% o’r Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol, Tâl Mabwysiadu Statudol, Tâl Rhieni Mewn Profedigaeth a Thâl ar y Cyd i Rieni mae eich cyflogeion yn ei gael.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gallwch adennill 103% os yw’ch busnes yn gymwys i gael Rhyddhad Cyflogwyr Bach. Cewch hyn os gwnaethoch dalu £45,000 neu lai mewn Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (gan anwybyddu unrhyw ostyngiadau fel Lwfans Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg)) yn y flwyddyn dreth gyflawn ddiwethaf cyn: 

  • yr ‘wythnos gymhwysol’ – y 15fed wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) cyn wythnos y dyddiad disgwyl 
  • yr ‘wythnos baru’ – yr wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) yr hysbyswyd eich cyflogai ei fod wedi cael ei baru â phlentyn gan yr asiantaeth fabwysiadu 
  • y dyddiad ar yr hysbysiad swyddogol os yw’ch cyflogai yn mabwysiadu plentyn o wlad arall 
  • yr ‘wythnos gymhwysol’ – yr wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) cyn marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn, ar gyfer Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Sut i adennill

Cyfrifwch faint y byddwch yn ei gael yn ôl gan ddefnyddio’ch meddalwedd gyflogres. I adennill y taliadau, dylech eu cynnwys mewn Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) (EPS) i Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Gallwch ysgrifennu i’r Swyddfa Cyflogwyr TWE i ofyn am ad-daliad os na allwch osod y taliadau yn erbyn rhwymedigaethau’r flwyddyn gyfredol. Ni allwch wneud hyn tan ddechrau’r flwyddyn dreth nesaf.

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST