Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol: arweiniad i gyflogwyr
Hawl
Gallai cyflogeion fod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol os yw un o’r canlynol yn wir am y cyflogai a’i bartner:
- maent yn cael babi
- maent yn mabwysiadu plentyn
- maent yn cael babi drwy drefniant mam fenthyg
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Absenoldeb Tadolaeth Statudol
Os yw dyddiad disgwyl y babi ar neu cyn 6 Ebrill 2024, neu cyn 6 Ebrill 2024 ar gyfer mabwysiadu
Gall cyflogeion ddewis cymryd naill ai 1 wythnos neu 2 wythnos olynol o absenoldeb. Mae hyd yr absenoldeb yr un peth, hyd yn oed os ydynt yn cael mwy nag un plentyn (er enghraifft, gefeilliaid).
Ni all yr absenoldeb ddechrau cyn yr enedigaeth. Mae’n rhaid i’r dyddiad dechrau fod yn un o’r canlynol:
- y dyddiad geni gwirioneddol
- nifer gytunedig o ddiwrnodau ar ôl yr enedigaeth
- nifer gytunedig o ddiwrnodau ar ôl wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth
Mae’n rhaid i’r absenoldeb orffen cyn pen 56 diwrnod i’r enedigaeth (neu’r dyddiad disgwyl, os daw’r babi’n gynnar).
Mae’r dyddiad dechrau a’r dyddiad dod i ben yn wahanol os bydd y cyflogai’n mabwysiadu.
Os yw dyddiad disgwyl y babi ar ôl 6 Ebrill 2024, neu ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024 ar gyfer mabwysiadu
Gall cyflogeion ddewis cymryd naill ai 1 neu 2 wythnos o absenoldeb. Os yw’r cyflogai yn cymryd 2 wythnos, gall eu cymryd naill ai’n olynol neu ar wahân. Mae hyd yr absenoldeb yr un peth, hyd yn oed os ydynt yn cael mwy nag un plentyn (er enghraifft, gefeilliaid).
Ni all yr absenoldeb ddechrau cyn yr enedigaeth. Mae’n rhaid i’r dyddiad dechrau fod yn un o’r canlynol:
- y dyddiad geni gwirioneddol
- nifer benodedig o ddiwrnodau ar ôl yr enedigaeth
- dyddiad penodol sydd ar ôl y dyddiad geni
Mae’n rhaid i’r absenoldeb orffen cyn pen 52 wythnos i’r enedigaeth (neu’r dyddiad disgwyl, os daw’r babi’n gynnar).
Mae’r dyddiad dechrau a’r dyddiad dod i ben yn wahanol os bydd y cyflogai’n mabwysiadu.
Mae rheolau gwahanol ar waith os ydych yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).
Tâl Tadolaeth Statudol
Mae Tâl Tadolaeth Statudol ar gyfer cyflogeion cymwys naill ai’n £184.03 yr wythnos neu’n 90% o’u henillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sydd isaf). Mae angen didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.
Cyfrifwch absenoldeb a thâl tadolaeth cyflogai drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell ar gyfer cyfnodau mamolaeth a thadolaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Mae gan rai mathau o gyflogaeth, megis gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol, wahanol reolau o ran hawl (yn agor tudalen Saesneg).
Absenoldeb neu dâl ychwanegol
Gall cyflogeion gael mwy o absenoldeb neu dâl os yw un o’r canlynol yn wir:
- mae partner y cyflogai yn dychwelyd i’r gwaith ac mae’n gymwys ar gyfer Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni
- mae cynllun eich cwmni’n cynnig mwy
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich polisïau o ran absenoldeb a thâl tadolaeth yn glir ac yn hygyrch i staff.
Adennill taliadau
Hyd yn oed os ydych yn talu cyflogai mwy na’r swm statudol, fel arfer, gallwch ond adennill 92% o’r swm hwnnw. Efallai y gallwch adennill 103% os ydych yn gymwys i gael Rhyddhad Cyflogwr Bach. Darllenwch ragor am adennill tâl statudol.
Absenoldeb ar gyfer apwyntiadau cynenedigol
Gall cyflogeion gymryd absenoldeb di-dâl er mwyn mynd gyda menyw feichiog i apwyntiadau cynenedigol os:
- yw’n dad i’r babi
- yw’n briod neu’n bartner sifil i’r fam sy’n disgwyl
- ydyw mewn perthynas hirdymor â’r fam sy’n disgwyl
- mai’r rhiant bwriadedig ydyw (os yw’n cael babi drwy drefniant mam fenthyg)
Gall y cyflogai fynd gyda’r fenyw i 2 apwyntiad o hyd at 6 awr a hanner yr un.
Os bydd y babi’n marw
Mae cyflogeion yn gymwys ar gyfer absenoldeb a thâl tadolaeth o hyd, os yw’r babi naill ai:
- yn farw-anedig o 24ain wythnos y beichiogrwydd ymlaen
- yn cael ei eni’n fyw ar unrhyw adeg yn ystod y beichiogrwydd ond yn marw yn nes ymlaen
Hawliau cyflogaeth
Diogelir hawliau cyflogaeth y cyflogai (yn agor tudalen Saesneg) (fel yr hawl i dâl, gwyliau a dychwelyd i swydd) yn ystod absenoldeb tadolaeth. Rydych yn dal i orfod talu Tâl Tadolaeth Statudol hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.