Cyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol
Trosolwg
Mae Credyd Cynhwysol yn daliad misol i’ch helpu gyda’ch costau byw. Efallai y gallwch ei gael os ydych ar incwm isel neu’n ddi-waith.
Efallai y cewch swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar faint o waith gallwch ei wneud. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cyfeirio at hyn fel eich ‘gallu i weithio’.
Mae eich taliad misol yn seiliedig ar eich amgylchiadau, er enghraifft eich cyflwr iechyd neu anabledd, incwm a chostau tai.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon.
Cymorth arall gallwch ei gael
Efallai byddwch hefyd yn gymwys i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd.
Gwiriwch os allwch gael cymorth ariannol arall
Os ydych yn agosàu at ddiwedd oes
Os ydych yn agosàu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y gallwch gael arian ychwanegol ar gyfer Credyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am hawlio Credyd Cynhwysol os ydych yn agosàu at ddiwedd oes.