Cyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol
Hawlio Credyd Cynhwysol os ydych yn agosàu at ddiwedd oes
Os ydych yn agosàu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.
Gelwir hyn weithiau’n ‘reolau arbennig ar gyfer diwedd oes’.
Efallai y byddwch yn gallu cael buddi-daliadau eraill os ydych yn agosàu at ddiwedd oes.
Cymhwysedd
Rydych chi fel arfer yn gymwys os:
- rydych yn 16 oed neu’n hŷn, ond o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn byw yn y DU
- mae gennych £16,000 neu lai mewn arian, cynilion a buddsoddiadau
- mae eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw
Gall fod yn anodd rhagweld pa mor hir y gallai rhywun fyw. Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am hyn, gallwch barhau i ofyn iddynt gefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.
Sut i wneud cais
Gofynnwch weithiwr meddygol proffesiynol am ffurflen SR1. Byddant naill ai’n ei llenwi ac yn rhoi’r ffurflen i chi neu’n ei hanfon yn uniongyrchol i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Gwnewch gais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Pan fyddwch yn gwneud cais, gofynnir i chi a yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw. Gofynnir i chi hefyd a hoffech i’r tîm Credyd Cynhwysol eich ffonio i’ch helpu i wneud eich cais.
Ni fydd angen i chi gael Asesiad Gallu i Weithio na gwneud Ymrwymiad Hawlydd.
Os ydych chi eisoes yn cael Credyd Cynhwysol
Gofynnwch weithiwr meddygol proffesiynol am ffurflen SR1. Byddant naill ai’n ei llenwi ac yn rhoi’r ffurflen i chi neu’n ei hanfon yn uniongyrchol at DWP.
Os ydych eisoes wedi anfon ffurflen SR1 ar gyfer budd-dal arall, er enghraifft Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), nid oes angen i chi ei hanfon eto.
Rhowch wybod am y newid ar-lein trwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Gofynnir i chi a hoffech i’r tîm Credyd Cynhwysol eich ffonio ynglŷn â’ch cais. Byddan nhw’n esbonio os oes unrhyw beth arall sydd angen i chi ei wneud.