Cyfrifiannell ar gyfer Treth Etifeddiant ar gyfradd is
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dalu Treth Etifeddiant ar gyfradd is o 36% os ydych yn gadael o leiaf 10% o’ch ystâd net i elusen. Darllenwch ragor am drothwyon, eithriadau a rhyddhadau Treth Etifeddiant.
Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo’r swm y bydd angen i chi ei adael i elusen o dan yr amgylchiadau canlynol:
- rydych yn ysgrifennu eich ewyllys eich hun
- rydych yn ysgutor ewyllys yr ymadawedig, neu’n weinyddwr ei ystâd – os oedd y farwolaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2012
Ni chewch ddefnyddio’r gyfrifiannell hon o dan yr amgylchiadau canlynol:
- roedd y farwolaeth cyn 6 Ebrill 2012
- mae costau wedi codi yn sgil gohirio treth ar gyfer coetiroedd neu asedion treftadaeth – mae’r dreth ar y rhain bob amser yn 40%
- mae Treth Etifeddiant yn ddyledus ar ymddiriedolaeth, ac ni fu marwolaeth
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi wybod y canlynol:
- gwerth yr asedion yn yr ystâd
- beth yw statws yr asedion o ran perchnogaeth
- cyfanswm gwerth yr asedion ym mhob rhan o (‘gydran’) yr ystâd
- gwerth unrhyw ddyledion neu rwymedigaethau y mae’n rhaid i’r ystâd eu talu
- unrhyw eithriadau a rhyddhadau Treth Etifeddiant
- swm unrhyw gyfraniadau elusennol sydd eisoes wedi’u gwneud
- gwerth y drothwy (‘haen cyfradd sero’)
- gwerth y rhoddion a roddwyd gan yr ymadawedig yn ystod y 7 mlynedd cyn marwolaeth