Sut mae Treth Etifeddiant yn gweithio: trothwyon, rheolau a lwfansau
Rheolau ar roi rhoddion
Efallai y bydd yn rhaid talu Treth Etifeddiant ar ôl eich marwolaeth ar rai rhoddion rydych wedi’u rhoi.
Gall rhoddion a roddir llai na 7 mlynedd cyn i chi farw gael eu trethu, yn dibynnu ar y canlynol:
- i bwy rydych chi’n rhoi’r rhodd a’i berthynas â chi
- gwerth y rhodd
- pryd y cafodd y rhodd ei rhoi
Gallwch gael cyngor proffesiynol gan gyfreithiwr (yn Saesneg) neu ymgynghorydd treth (yn Saesneg) am yr hyn y gallwch ei roi yn rhydd o dreth yn ystod eich oes.
Yr hyn sy’n cyfrif fel rhodd
Mae’r rhoddion yn cynnwys:
- arian
- nwyddau’r tŷ a nwyddau personol, er enghraifft dodrefn, gemwaith neu hynafolion
- tŷ, tir neu adeiladau
- stociau a chyfranddaliadau sydd wedi’u rhestru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain
- cyfranddaliadau heb eu rhestru, a ddaliwyd am lai na 2 flynedd cyn eich marwolaeth
Gall rhodd hefyd gynnwys unrhyw arian rydych chi’n ei golli pan fyddwch chi’n gwerthu rhywbeth am lai na’i werth. Er enghraifft, os ydych yn gwerthu’ch cartref i’ch plentyn am lai na’i werth marchnadol, mae’r gwahaniaeth mewn gwerth yn cyfrif fel rhodd.
Nid yw unrhyw beth a adewch yn eich ewyllys yn cyfrif fel rhodd ond, yn hytrach, mae’n cael ei ystyried yn rhan o’ch ystâd. Eich ystâd yw eich holl arian, eiddo ac eiddo personol sydd ar ôl pan fyddwch yn marw. Defnyddir gwerth eich ystâd i gyfrifo a oes angen talu Treth Etifeddiant.
Pwy sydd ddim yn talu Treth Etifeddiant
Mae rhai rhoddion wedi’u heithrio rhag Treth Etifeddiant.
Does dim Treth Etifeddiant i’w thalu ar roddion rhwng parau priod neu bartneriaid sifil. Gallwch roi cymaint ag y dymunwch iddo yn ystod eich oes, cyn belled â’i fod:
- yn byw yn y DU yn barhaol
- yn briod yn gyfreithiol neu mewn partneriaeth sifil gyda chi
Does dim Treth Etifeddiant i’w thalu ychwaith ar roddion i elusennau na phleidiau gwleidyddol.
Defnyddio lwfansau i roi rhoddion sy’n rhydd o dreth
Bob blwyddyn dreth, gallwch hefyd roi rhywfaint o arian neu eiddo personol yn rhydd o Dreth Etifeddiant. Mae faint sy’n rhydd o dreth yn dibynnu ar ba lwfansau rydych chi’n eu defnyddio.
Eithriad blynyddol
Gallwch roi rhoddion gwerth cyfanswm o £3,000 i ffwrdd bob blwyddyn heb iddynt gael eu hychwanegu at werth eich ystâd. Eich ‘eithriad blynyddol’ yw’r enw a roddir ar hyn.
Gallwch roi rhodd neu arian hyd at £3,000 i un person neu rannu’r £3,000 rhwng nifer o bobl.
Gallwch gario unrhyw eithriad blynyddol heb ei ddefnyddio ymlaen i’r flwyddyn nesaf – ond dim ond am un flwyddyn dreth yn unig.
Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
Enghraifft
Ym mlwyddyn dreth 2022 i 2023, rhoddodd Mark £2,000 i’w ferch, Jane. Pe bai’n marw o fewn 7 mlynedd i’r rhodd, byddai hyn yn defnyddio £2,000 o’i eithriad blynyddol.
Ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024, rhoddodd Mark £4,000 i’w ferch arall, Sarah. Pe bai Mark yn marw o fewn 7 mlynedd i’r rhodd, byddai hyn yn defnyddio ei eithriad blynyddol o £3,000 ynghyd â’r £1,000 o’r eithriad blynyddol a oedd yn weddill o’r flwyddyn dreth flaenorol.
Hyd yn oed os bydd Mark yn marw o fewn 7 mlynedd o roi’r rhoddion hyn, nid oes unrhyw Dreth Etifeddiant i’w thalu.
Lwfans ar gyfer rhoddion bychain
Gallwch roi cymaint o roddion hyd at £250 y pen ag y dymunwch bob blwyddyn dreth, cyn belled nad ydych wedi defnyddio lwfans arall ar yr un person.
Mae rhoddion pen-blwydd neu Nadolig a rowch o’ch incwm rheolaidd wedi’u heithrio rhag Treth Etifeddiant.
Rhoddion ar adeg priodas neu bartneriaeth sifil
Bob blwyddyn dreth, gallwch roi rhodd sy’n rhydd o dreth i rywun sy’n priodi neu sy’n ffurfio partneriaeth sifil. Gallwch roi i ffwrdd hyd at:
- £5,000 i blentyn
- £2,500 i unrhyw wyrion neu or-wyrion
- £1,000 i unrhyw berson arall
Os ydych yn rhoi rhoddion i’r un person, gallwch gyfuno lwfans anrheg priodas gydag unrhyw lwfans arall, ac eithrio’r lwfans rhodd bach.
Er enghraifft, gallwch roi rhodd briodas o £5,000 i’ch plentyn yn ogystal â £3,000 gan ddefnyddio’ch eithriad blynyddol yn yr un flwyddyn dreth.
Os ydych yn gwneud taliadau rheolaidd
Gallwch wneud taliadau rheolaidd i berson arall, er enghraifft i helpu gyda’i gostau byw. Nid oes cyfyngiad ar faint y gallwch ei roi yn rhydd o dreth, ar yr amodau canlynol:
- gallwch fforddio’r taliadau ar ôl cwrdd â’ch costau byw arferol
- rydych yn talu o’ch incwm misol rheolaidd
Gelwir y rhain yn ‘wariant arferol allan o incwm’. Gallant gynnwys:
- talu rhent i’ch plentyn
- talu i mewn i gyfrif cynilo ar gyfer plentyn o dan 18 oed
- rhoi cymorth ariannol i berthynas oedrannus
Os ydych yn rhoi rhoddion i’r un person, gallwch gyfuno ‘gwariant arferol allan o incwm’ ag unrhyw lwfans arall, ac eithrio’r lwfans rhodd bach.
Er enghraifft, gallwch roi taliad rheolaidd o £60 y mis i’ch plentyn (cyfanswm o £720 y flwyddyn) yn ogystal â defnyddio’ch eithriad blynyddol o £3,000 yn yr un flwyddyn dreth.
Y rheol 7 mlynedd
Nid oes treth yn ddyledus ar unrhyw roddion a rowch os ydych yn byw am 7 mlynedd ar ôl eu rhoi - oni bai bod y rhodd yn rhan o ymddiriedolaeth (yn Saesneg). Y rheol 7 mlynedd yw’r enw am hyn.
Os byddwch yn marw o fewn 7 mlynedd o roi rhodd a bod Treth Etifeddiant i’w thalu arni, mae swm y dreth sy’n ddyledus ar ôl eich marwolaeth yn dibynnu ar bryd y rhoesoch chi’r rhodd.
Mae rhoddion a roddir yn y 3 blynedd cyn eich marwolaeth yn cael eu trethu ar 40%.
Mae rhoddion a roddir 3 i 7 mlynedd cyn eich marwolaeth yn cael eu trethu ar raddfa symudol a elwir yn ‘rhyddhad meinhau’.
Mae rhyddhad meinhau ond yn berthnasol os yw cyfanswm gwerth y rhodd a wnaed yn y 7 mlynedd cyn i chi farw dros y trothwy sy’n rhydd o dreth sef £325,000.
Rhyddhad meinhau
Blynyddoedd rhwng rhodd a marwolaeth | Cyfradd y dreth ar y rhodd |
---|---|
3 i 4 blynedd | 32% |
4 i 5 mlynedd | 24% |
5 i 6 mlynedd | 16% |
6 i 7 mlynedd | 8% |
7 neu fwy | 0% |
Rhoi rhoddion rydych chi’n dal i elwa ohonyn nhw
Os byddwch yn rhoi rhywbeth i ffwrdd ond yn dal i elwa ohono (‘rhodd â budd amodol’), bydd yn cyfrif tuag at werth eich ystâd.
Mae rhoddion â budd amodol yn cynnwys:
- rhoi eich cartref i berthynas ond yn dal i fyw yno
- rhoi carafán i ffwrdd ond yn dal i’w defnyddio am ddim ar gyfer eich gwyliau
- rhoi llun wedi’i baentio i ffwrdd ond yn dal i’w arddangos yn eich tŷ
Darllenwch ragor o arweiniad ynghylch pryd y mae rhodd â budd amodol yn cyfrif tuag at werth yr ystâd (yn Saesneg).
Cadw cofnodion o’r rhoddion rydych chi wedi’u rhoi
Bydd angen i’r sawl sy’n delio â’ch ystâd gyfrifo pa roddion a roesoch yn y 7 mlynedd cyn eich marwolaeth. Dylech gadw’r cofnodion canlynol:
- beth a roesoch ac i bwy
- gwerth y rhodd
- pryd y rhoesoch y rhodd
Sut y bydd Treth Etifeddiant ar roddion yn cael ei thalu
Fel arfer, bydd unrhyw Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus ar roddion yn cael ei thalu gan yr ystâd, oni bai eich bod yn rhoi mwy na £325,000 mewn rhoddion yn y 7 mlynedd cyn eich marwolaeth. Ar ôl i chi roi mwy na £325,000 i ffwrdd, bydd yn rhaid i unrhyw un sy’n cael rhodd gennych chi yn y 7 mlynedd hynny dalu Treth Etifeddiant ar ei rodd.
Enghraifft
Bu farw Sally ar 1 Gorffennaf 2022. Nid oedd yn briod nac mewn partneriaeth sifil pan fu farw.
Rhoddodd hi 3 rhodd yn ystod y 9 mlynedd cyn ei marwolaeth:
- £50,000 i’w brawd, 9 mlynedd cyn ei marwolaeth
- £325,000 i’w chwaer, 4 mlynedd a 2 fis cyn ei marwolaeth
- £100,000 i’w ffrind, 3 blynedd cyn ei marwolaeth
Nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu ar y rhodd o £50,000 i’w brawd gan ei bod wedi ei rhoi fwy na 7 mlynedd cyn iddi farw.
Nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu chwaith ar y £325,000 a roddodd i’w chwaer, gan fod hyn o fewn trothwy’r Dreth Etifeddiant.
Ond mae’n rhaid i’w ffrind dalu Treth Etifeddiant ar ei rhodd o £100,000 ar gyfradd o 32%, gan ei bod yn uwch na’r trothwy sy’n rhydd o dreth ac mi gafodd ei rhoi 3 blynedd cyn i Sally farw. Y Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus yw £32,000.
Gwerth ystâd Sally oedd yn weddill oedd £400,000, felly byddai’r ystâd yn talu Treth Etifeddiant o 40% ar £400,000 (£160,000).
Darllenwch ragor o arweiniad ynghylch pryd y mae rhodd yn cyfrif tuag at werth yr ystâd (yn Saesneg), sut i’w phrisio a faint o Dreth Etifeddiant a all fod yn ddyledus.