Sut mae Treth Etifeddiant yn gweithio: trothwyon, rheolau a lwfansau
Trosglwyddo cartref
Gallwch drosglwyddo cartref i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil pan fyddwch yn marw. Does dim Treth Etifeddiant i’w thalu os ydych yn gwneud hynny.
Os byddwch yn gadael y cartref i berson arall yn eich ewyllys (yn Saesneg), bydd yn cyfrif tuag at werth yr ystâd.
Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun (neu’n berchen ar gyfran ynddo), gall eich trothwy sy’n rhydd o dreth (yn Saesneg) gynyddu i £500,000 os:
- ydych yn ei adael i’ch plant (gan gynnwys plant mabwysiedig, plant maeth neu lysblant) neu’ch wyrion
- yw gwerth eich ystâd yn llai na £2 filiwn
Rhoi cartref i ffwrdd cyn i chi farw
Fel rheol, does dim Treth Etifeddiant i’w thalu os byddwch yn symud allan ac yn byw am 7 mlynedd arall.
Os ydych am barhau i fyw yn eich eiddo ar ôl ei roi i ffwrdd, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- talu rhent i’r perchennog newydd ar y gyfradd sylfaenol (ar gyfer eiddo rhent lleol tebyg)
- talu’ch cyfran chi o’r biliau
- byw yno am o leiaf 7 mlynedd
Fel arall, mae’n cyfrif fel ‘rhodd â budd amodol’ a bydd yn cael ei ychwanegu at werth eich ystâd pan fyddwch yn marw. (Rhodd â budd amodol yw lle rydych chi’n rhoi rhywbeth i ffwrdd ond yn parhau i elwa ohono.)
Does dim angen i chi dalu rhent i’r perchnogion newydd os yw’r naill a’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych ond yn rhoi rhan o’ch eiddo i ffwrdd
- mae’r perchnogion newydd hefyd yn byw yn yr eiddo
Os byddwch yn marw o fewn 7 mlynedd
Os byddwch yn marw cyn pen 7 mlynedd ar ôl rhoi’ch eiddo i gyd, neu ran ohono, i ffwrdd, bydd eich cartref yn cael ei drin fel rhodd a bydd y rheol 7 mlynedd yn berthnasol.
Nid yw’r rheol 7 mlynedd yn berthnasol i roddion â budd amodol (yn Saesneg).
Rhagor o help
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes gennych gwestiynau am roi cartref i ffwrdd. Nid yw’n gallu rhoi cyngor i chi ynglŷn â sut i dalu llai o dreth.