Cael cymorth a chefnogaeth ychwanegol i reoli eich budd-daliadau neu bensiwn

Os ydych yn cael anhawster rheoli cais budd-dal neu eich Pensiwn y Wladwriaeth, mae cymorth ychwanegol ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth ychwanegol gyda:

  • gwneud cais budd-dal neu bensiwn newydd
  • mynychu apwyntiadau
  • deall eich budd-daliadau neu bensiwn
  • rheoli eich arian

Cysylltwch â ChThEF i gael cymorth a chefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael Budd-dal Plant neu gredydau treth.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg

Cefnogaeth ychwanegol os oes gennych anghenion hygyrchedd

Gallwch gael help os ydych yn ei chael hi’n anodd gwneud cais neu reoli eich cais. Er enghraifft, os ydych chi eisiau mwy o gefnogaeth i:

  • ddefnyddio’r ffôn neu’r rhyngrwyd
  • darllen llythyrau
  • llenwi ffurflenni
  • mynychu apwyntiad wyneb yn wyneb
  • deall gwybodaeth am eich budd-daliadau neu bensiwn

Sut i gael rhywun arall i reoli eich cais

Gallwch ofyn i rywun arall (er enghraifft, aelod o’r teulu neu ffrind) eich helpu gyda’ch cais. Gallant:

Os ydych chi angen rhywun arall i wneud penderfyniadau am eich budd-daliadau neu bensiwn ar eich rhan, gallant wneud cais i ddod yn benodai.

Gwiriwch os gallwch gael ymweliad cartref

Efallai y byddwch yn gallu cael ymweliad cartref i’ch helpu gyda’ch cais am fudd-dal os ydych:

  • ag anghenion cymhleth
  • yn anabl
  • yn berson ifanc bregus sy’n gwneud cais am y tro cyntaf
  • heb unrhyw un arall i’ch cefnogi
  • yn methu gwneud cais am fudd-daliadau mewn unrhyw ffordd arall

Gofynnwch am ymweliad cartref drwy ffonio’r llinell gymorth o’r budd-dal rydych chi’n gwneud cais amdani neu gysylltu â’ch Canolfan Byd Gwaith leol.

Cymorth i reoli’ch arian

Os oes angen help ariannol arnoch, gallwch gael cyngor cyllidebu a chefnogaeth.

Gallwch hefyd gael help gyda chostau byw. Gallai hyn gynnwys cymorth gydag ynni neu filiau dŵr, neu gostau hanfodol fel bwyd.

Os ydych chi’n ansicr pa gymorth sydd ei angen arnoch chi

Os ydych yn credu bod angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â’ch swyddfa leol a all edrych ar eich amgylchiadau a dweud wrthych beth y gallech ei gael.

Gallwch gysylltu â’r: