Helpu rhywun gyda’i gais am fudd-dal

Sgipio cynnwys

Rheoli cais ar ran rhywun

Gallwch reoli cais ar ran rhywun os oes gennych ‘awdurdod ysgrifenedig’. Mae hyn yn cynnwys:

Gallwch eu helpu gydag unrhyw fath o gais budd-dal. Byddwch yn gallu gwneud pethau fel apelio yn erbyn penderfyniad ar eu rhan neu ddod â’u cais i ben.

Os nad oes gennych awdurdod ysgrifenedig

Gallwch barhau i reoli cais drwy ffonio’r llinell gymorth am y budd-dal. Bydd angen i’r person sy’n hawlio’r budd-dal fod gyda chi pan fyddwch yn ffonio er mwyn cwblhau’r gwiriadau diogelwch ac i gytuno ar unrhyw benderfyniadau.

Mae pa linell gymorth rydych chi’n ei defnyddio yn dibynnu ar y budd-dal. Am: