Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Os ydych chi ar incwm isel yng Nghymru a Lloegr
Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar gyfer gaeaf 2024-2025 wedi dod i ben. Bydd yn ailagor ym mis Hydref 2025.
Os nad ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn, efallai y byddwch chi’n dal yn gymwys i gael y Gostyngiad Cartref Cynnes.
Efallai y byddwch chi’n gymwys os oedd y canlynol i gyd yn gymwys ar 11 Awst 2024:
-
bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
-
eich bod chi (neu’ch partner) yn cael budd-daliadau neu gredydau treth penodol sydd â phrawf moddion
-
bod gan eich eiddo sgôr cost ynni uchel yn seiliedig ar ei nodweddion
-
bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan
Yr enw ar hyn yw ‘grŵp craidd 2’.
Y budd-daliadau a’r credydau treth cymwys
Y budd-daliadau cymwys sy’n seiliedig ar brawf modd yw:
-
Budd-dal Tai
-
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm (ESA)
-
Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm (JSA)
-
Cymorth Incwm
-
y rhan ‘Credyd Cynilion’ o Gredyd Pensiwn
-
Credyd Cynhwysol
Fe allech chi fod yn gymwys hefyd os yw incwm eich aelwyd o dan drothwy penodol a’ch bod chi’n cael naill ai:
-
Credyd Treth Plant
-
Credyd Treth Gwaith
Eich sgôr cost ynni
Mae’n rhaid bod gan eich eiddo sgôr cost ynni uchel i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Nid yw hyn yn seiliedig ar y costau ynni gwirioneddol yn eich bil ynni. Mae’n cael ei gyfrifo yn seiliedig ar fath eich eiddo, ei oed a’i arwynebedd llawr.
Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i gael y gostyngiad ar-lein.
Os ydych chi’n gymwys
Bydd eich cyflenwr trydan yn cymhwyso’r gostyngiad i’ch bil erbyn 31 Mawrth 2025. Dydy’r arian ddim yn cael ei dalu i chi.