Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Os ydych chi ar incwm isel yn yr Alban
Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar gyfer gaeaf 2024-2025 wedi dod i ben. Bydd yn ailagor ym mis Hydref 2025.
Os oes gennych chi hawl i gael y gostyngiad ond nad ydych wedi’i gael eto, cysylltwch â’ch cyflenwr ynni.
Does dim angen ichi wneud cais os ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn. Fe gewch chi lythyr yn awtomatig yn dweud wrthoch chi am y gostyngiad os ydych chi’n gymwys.
Fel arall, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i’ch cyflenwr ynni.
Efallai y byddwch chi’n gymwys os yw’r canlynol i gyd yn gymwys:
- bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
- eich bod chi (neu’ch partner) yn cael budd-daliadau neu gredydau treth penodol sydd â phrawf moddion
- bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan
Efallai y bydd gan eich cyflenwr trydan feini prawf cymhwystra ychwanegol. Byddan nhw hefyd yn dweud wrthoch chi pa fudd-daliadau sy’n golygu eich bod chi’n gymwys.
Yr enw ar hyn yw y ‘grŵp ehangach’.
Os ydych chi’n gymwys
Bydd eich cyflenwr trydan yn cymhwyso’r gostyngiad i’ch bil erbyn 31 Mawrth 2025. Bydd angen i chi aros gyda’ch cyflenwr nes bydd wedi’i dalu.