Trosolwg

Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn ostyngiad untro o £150 oddi ar eich bil trydan.

Os ydych chi’n gymwys, bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil. Dyw’r arian ddim yn cael ei dalu i chi.

Fel arfer, byddwch chi’n cael y gostyngiad yn awtomatig os ydych chi’n gymwys. Dim ond os ydych chi ar incwm isel yn yr Alban y mae angen ichi wneud cais – cysylltwch â’ch cyflenwr ynni i wneud cais.

Efallai y gallwch chi gael y gostyngiad ar eich bil nwy yn lle’ch bil trydan os yw’ch cyflenwr yn darparu nwy a thrydan i chi a’ch bod chi’n gymwys. Cysylltwch â’ch cyflenwr i gael gwybod.

Mae’r canllaw yma hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Fydd y gostyngiad ddim yn effeithio ar eich Taliad Tywydd Oer na’ch Taliad Tanwydd Gaeaf.

Cymhwystra

Mae gwahanol ffyrdd o fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, gan ddibynnu ble rydych chi’n byw.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru a Lloegr

Rydych chi’n gymwys os ydych chi naill ai:

Os ydych chi’n byw yn yr Alban

Rydych chi’n gymwys os ydych chi naill ai:

Dyw’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ddim ar gael yng Ngogledd Iwerddon. Rhagor o wybodaeth am y cynllun Gwres Fforddiadwy.

Mesuryddion talu ymlaen llaw neu dalu wrth fynd

Rydych chi’n dal yn gallu bod yn gymwys i gael y gostyngiad os ydych chi’n defnyddio mesurydd trydan talu ymlaen llaw neu fesurydd talu wrth fynd.

Gall eich cyflenwr trydan ddweud wrthoch chi sut y byddwch chi’n cael y gostyngiad os ydych chi’n gymwys, er enghraifft taleb y gallwch ei defnyddio i ychwanegu at eich mesurydd.

Cartrefi (symudol) mewn parc

Rydych chi’n gwneud cais mewn ffordd wahanol os ydych chi’n byw mewn cartref mewn parc.

Gwneud cais am Gostyngiad Cartrefi Cynnes Cartrefi mewn Parc.