Trosolwg

Os cawsoch eich geni cyn 23 Medi 1958 gallech gael naill ai £200 neu £300 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi ar gyfer gaeaf 2024 i 2025. Gelwir hyn yn ‘Daliad Tanwydd Gaeaf’.

Efallai y byddwch yn gymwys os ydych chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau penodol.

Ni fyddwch yn cael y Taliad Costau Byw i Bensiynwyr ychwanegol a rhoddir yn 2022 a 2023. Daeth hwn i ben yng ngaeaf 2023.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud faint fyddwch yn ei gael.

Os nad ydych yn cael llythyr ond rydych yn meddwl eich bod yn gymwys, gwiriwch a oes angen i chi wneud cais

Mae’r rhan fwyaf o bobl gymwys yn cael eu talu ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr. Darganfyddwch beth i’w wneud os nad ydych wedi cael eich talu.

Os ydych yn byw yn Yr Alban

Ni allwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf. Efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad tebyg gan Lywodraeth yr Alban. Bydd hyn yn cael ei dalu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Help arall gyda biliau gwresogi

Gallech hefyd gael:

  • Taliad Tywydd Oer - os ydych yn cael rhai budd-daliadau a bod y tymheredd yn gostwng i radd sero Celsius neu is am 7 diwrnod yn olynol
  • y Disgownt Cartref Cynnes - mae hwn yn ostyngiad o £150 ar eich biliau os ydych yn cael Credyd Pensiwn neu os ydych yn byw mewn cartref incwm isel
  • cymorth gan y Gronfa Cymorth i Gartrefi, os ydych yn gymwys o dan reolau eich cyngor lleol - edrychwch ar wefan eich cyngor lleol