Os ydych yn byw dramor

Os nad ydych yn byw yn y DU, rydych ond yn gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf os:

  • cawsoch eich geni cyn 23 Medi 1958
  • rydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth y DU
  • mae gennych gysylltiad dilys a digonol â’r DU - gall hyn gynnwys cael byw neu weithio yn y DU, a chael teulu yn y DU
  • mae’r DU yn gyfrifol am dalu eich budd-daliadau
  • gwnaethoch symud i wlad gymwys cyn 31 Rhagfyr 2020 ac rydych wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig, nid oes angen eich bod wedi symud erbyn 31 Rhagfyr 2020, ond bydd angen i chi gwrdd â’r holl reolau cymhwysedd eraill.

Rhaid i chi hefyd fod yn cael budd-dal prawf modd cymhwysol o’r wlad rydych yn byw ynddi sy’n cyfateb i:

  • Gredyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Cymhorthdal ​​Incwm
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant

Rhaid eich bod wedi bod yn cael y budd-dal hwn yn ystod yr wythnos cymhwyso o 16 i 22 Medi 2024.

Rhaid eich bod yn byw mewn gwlad AEE gymwys neu’r Swistir i gael Taliad Tanwydd Gaeaf.

Gwledydd cymwys

  • Awstria
  • Gwlad Belg
  • Bwlgaria
  • Croatia
  • Y Weriniaeth Tsiec
  • Denmarc
  • Estonia
  • Ffindir
  • Yr Almaen
  • Hwngari
  • Gwlad yr Ia
  • Iwerddon
  • Yr Eidal
  • Latfia
  • Liechtenstein
  • Lithwania
  • Luxembourg
  • Yr Iseldiroedd
  • Norwy
  • Gwlad Pwyl
  • Romania
  • Slofacia
  • Slofenia
  • Sweden
  • Y Swistir

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf:

  • trwy’r post - o 30 Medi 2024
  • dros y ffôn - o 28 Hydref 2024

Y dyddiad cau i chi wneud cais ar gyfer gaeaf 2024 i 2025 yw 31 Mawrth 2025.

Pan rydych yn gwneud cais, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’r budd-daliadau prawf modd rydych yn ei dderbyn (o’r wlad rydych yn byw ynddo).

Gwneud cais drwy’r post

Bydd angen i chi hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf hyd yn oed os ydych wedi ei gael o’r blaen. Ni wneir y taliad yn awtomatig.

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen IPCF091, os ydych yn ddinesydd y DU neu’n ddinesydd deuol y DU sy’n byw mewn gwlad gymwys heblaw Iwerddon.

Os nad ydych wedi hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen, bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf.

Os cawsoch Daliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’r budd-dal prawf modd yr ydych yn ei gael (o’r wlad rydych yn byw ynddi) ar y ffurflen gwybodaeth ychwanegol Taliad Tanwydd Gaeaf.

Lawrlwythwch y ffurflenni

Anfonwch eich ffurflenni wedi’u cwblhau i’r cyfeiriad canlynol.

Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1ZU
UK

Gwneud cais dros y ffôn

Ffoniwch y Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf i wneud cais dros y ffôn.

Canolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf
Ffurflen ymholiadau e-bost
Ffôn: +44 (0)191 218 7777
Ffôn testun: cysylltwch â Relay UK ar +44 (0)151 494 2022 ac yna 0800 731 0160
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Beth i’w baratoi cyn i chi ffonio

Cyn i chi ffonio, byddwch angen gwybod:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu
  • eich rhifau BIC ac IBAN
  • y dyddiad gwnaethoch briodi neu d dod yn rhan o bartneriaeth sifil (os yw’n briodol)

Ni ellir gwneud taliadau i gyfrif Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) oni bai eich bod eisoes yn cael budd-daliadau eraill wedi’u talu i’r cyfrif.

Byddwch hefyd angen dweud os, yn ystod wythnos gymhwyso 16 a 22 Medi 2024, roeddech:

  • yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim i gleifion mewnol
  • mewn cartref gofal preswyl
  • yn y carchar

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.