Credyd Pensiwn
Trosolwg
Mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i helpu gyda’ch costau byw os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel. Gall Credyd Pensiwn hefyd helpu gyda chostau tai fel rhent daear neu daliadau gwasanaeth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.
Efallai y cewch gymorth ychwanegol os ydych yn ofalwr, yn ddifrifol anabl, neu’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc.
Mae Credyd Pensiwn ar wahân i’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch gael Credyd Pensiwn hyd yn oed os oes gennych incwm arall, cynilion neu os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun.
Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â Chredyd Pensiwn yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.Darganfyddwch fwy am Gredyd Pensiwn yng Ngogledd Iwerddon.
Cymorth arall os ydych yn cael Credyd Pensiwn
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn gallwch hefyd gael help arall, fel:
- Budd-dal Tai os ydych yn rhentu’r eiddo rydych yn byw ynddo
- Taliad Tanwydd Gaeaf
- Cymorth ar gyfer Llog Morgais os ydych yn berchen ar yr eiddo rydych chi’n byw ynddo
- Gostyngiad Treth Gyngor
- trwydded deledu am ddim os ydych yn 75 oed neu’n hŷn
- help gyda thriniaeth ddeintyddol y GIG, sbectol a chostau trafnidiaeth ar gyfer apwyntiadau ysbyty, os ydych yn cael math penodol o Gredyd Pensiwn
- help gyda’ch costau gwresogi trwy’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
- gostyngiad ar wasanaeth ailgyfeirio’r Post Brenhinol os ydych yn symud cartref