Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
Pwy sy'n cael Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth
Mae pawb sy’n gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth bellach wedi cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Er mwyn ei gael mae angen i chi gael digon o flynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol.
Mae angen i chi hefyd fod naill ai:
- yn ddyn a anwyd cyn 6 Ebrill 1951
- yn fenyw a anwyd cyn 6 Ebrill 1953
Os cawsoch eich geni ar y dyddiadau hyn neu ar ôl y dyddiadau hyn, bydd rhaid i chi wneud cais am Bensiwn newydd y Wladwriaeth yn lle hynny.
Byddwch eisoes wedi gwneud cais am eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth oni bai eich bod wedi oedi (gohirio) eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Eich blynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol
Blwyddyn gymhwyso Yswiriant Gwladol yw blwyddyn pan wnaethoch un neu fwy o’r canlynol:
-
gweithio a thalu Yswiriant Gwladol
-
wedi cael Credydau Yswiriant Gwladol, er enghraifft roeddech yn ddi-waith, yn sâl, neu’n rhiant neu ofalwr
-
gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol
Nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen arnoch
Mae nifer y blynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol sydd eu hangen arnoch i gael unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Os ydych yn ddyn mae angen y canlynol arnoch fel arfer:
1 flwyddyn gymhwyso os cawsoch eich geni rhwng 1945 a 1951 11 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni cyn 1945
Os ydych yn fenyw mae angen y canlynol arnoch fel arfer:
- 1 flwyddyn gymhwyso os cawsoch eich geni rhwng 1950 a 1953
- 10 mlynedd gymhwyso os cawsoch eich geni cyn 1950
Efallai y byddwch yn dal yn gymwys os oes gennych lai o flynyddoedd cymhwyso. I wirio, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn neu’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol os ydych yn byw dramor.
Mae nifer y blynyddoedd cymhwyso o gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd gennych yn effeithio ar swm Pensiwn y Wladwriaeth y byddwch yn ei gael.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Efallai y gallwch gynyddu neu etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth os oes gennych gymar neu bartner sifil.
Efallai y gallwch gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth os naill ai:
- nad ydych yn gymwys am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
- mae eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na £101.55 yr wythnos
Efallai y gallwch etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth gan eich priod neu bartner sifil os naill ai:
- nad ydych yn gymwys am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
- mae eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na £169.50 yr wythnos
Os ydych yn drawsryweddol
Efallai effeithir ar eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn berson trawsryweddol ac rydych:
-
wedi cael eich geni rhwng 24 Rhagfyr 1919 a 3 Ebrill 1945
-
wedi gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth cyn 4 Ebrill 2005
-
yn gallu darparu tystiolaeth bod eich llawdriniaeth ailbennu rhywedd wedi cymryd lle cyn 4 Ebrill 2005
Darganfyddwch fwy a chysylltwch â’r Tîm Ailbennu Rhywedd (GR).
Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth os ydych wedi newid eich rhywedd yn gyfreithiol ac wedi dechrau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 4 Ebrill 2005 – byddwch eisoes yn hawlio yn seiliedig ar eich rhywedd cyfreithiol.
Os nad ydych yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth
Efallai eich bod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn neu budd-daliadau a chymorth ariannol eraill.