Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
Pryd fyddwch yn cael eich talu
Mae Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth fel arfer yn cael ei dalu pob 4 wythnos i gyfrif o’ch dewis. Os ydych am newid y cyfrif, rhowch wybod i’r Gwasanaeth Pensiwn.
Mae’r diwrnod y telir eich pensiwn yn dibynnu ar eich rhif Yswiriant Gwladol.
2 ddigid olaf eich rhif Yswiriant Gwladol | Y diwrnod y caiff eich Pensiwn y Wladwriaeth ei dalu |
---|---|
00 i 19 | Dydd Llun |
20 i 39 | Dydd Mawrth |
40 i 59 | Dydd Mercher |
60 i 79 | Dydd Iau |
80 i 99 | Dydd Gwener |
Mae yna reolau gwahanol os ydych yn byw dramor.
Eich taliad cyntaf
Pan fyddwch yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig (deferred) gofynnir i chi pryd rydych am iddo ddechrau.
Byddwch yn cael eich taliad cyntaf ar ddiwedd yr wythnos lawn gyntaf rydych am ddechrau cael eich pensiwn.
Os ydych wedi cael eich talu gormod
Efallai bydd angen i chi ad-dalu’r arian os:
- na wnaethoch roi gwybod am newid yn syth
- rydych wedi rhoi gwybodaeth anghywir
- cawsoch eich gordalu ar ddamwain
Darganfyddwch sut i ad-dalu gordaliad