Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
Gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth gohiriedig
Gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig naill ai drwy:
- ffonio llinell gais Pensiwn y Wladwriaeth
- cwblhau a phostio ffurflen gais Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
- gwneud cais o dramor gan gynnwys Ynysoedd y Sianel
Mae angen i chi wneud cais am Bensiwn newydd y Wladwriaeth yn lle hynny os ydych yn ddyn a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951 neu’n fenyw a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1953.
Llinell gais Pensiwn y Wladwriaeth
Rhif ffôn: 0800 731 7936
Ffôn testun: 0800 731 7339
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 7936
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 731 7898
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7:30pm (heblaw gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau
Mae sut i wneud cais yn wahanol os ydych yn gwneud cais o Ogledd Iwerddon
Os ydych am barhau i weithio
Gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth hyd yn oed os ydych yn parhau i weithio.
Os yw eich amgylchiadau’n newid
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn am newid mewn amgylchiadau, fel os ydych yn symud i gyfeiriad newydd neu’n newid eich manylion banc.