Ffurflen

Ffurflen gais Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Argraffwch neu gofynnwch am ffurflen gais i wneud cais am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy’r post.

Dogfennau

Manylion

Defnyddiwch y ffurflen hon os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1951 (dynion), neu 1953 (menywod).

Os cawsoch eich geni ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951 (dynion) neu 1953 (menywod) gallwch gael eich Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu lechen

Nid oes modd i chi gwblhau’r ffurflen gan ddefnyddio ffôn symudol neu lechen. Rhaid i chi naill ai::

  • defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur

  • argraffu’r ffurflen a’i chwblhau â llaw  

Ffoniwch linell gymorth Pensiwn y Wladwriaeth i ofyn am ffurflen bapur. 

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur

Defnyddiwch ddarllenwr PDF i agor a llenwi’r ffurflen hon. Gallwch lawrlwytho darllenwr PDF am ddim ar-lein.

Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenwr sgrîn i gael mynediad i’r ffurflen, rydym yn argymell eich bod yn adolygu’r nodiadau a’r cwestiynau ar y ffurflen cyn i chi ei chwblhau. Wrth i chi gwblhau’r ffurflen, byddwch yn cael eich arwain trwy’r cwestiynau yn seiliedig ar yr ymatebion rydych yn eu rhoi. 

Peidiwch â defnyddio porwr eich cyfrifiadur, neu os ydych yn defnyddiwr Apple Macintosh, y cymhwysiad Preview.

Gallwch arbed data sydd wedi’i deipio yn y ffurflen hon os ydych yn defnyddio darllenwr PDF. Mae hwn yn meddwl nad oes angen i chi lenwi’r ffurflen mewn un sesiwn.

Mae trafferthion dibynadwyedd gyda rhai meddalwedd cynorthwyol, a all feddwl ni fydd y ffurflen yn arbed yn gywir.

Bydd y ffurflen hon dim ond yn arbed os: 

  • mae wedi arbed ar eich cyfrifiadur

  • mae wedi agor mewn fersiwn diweddar o ddarllenwr PDF

Ni fydd y ffurflen yn arbed mewn:

  • fersiynau o Acrobat Reader sy’n hŷn na fersiwn XI

  • rhai darllenwr PDF eraill, er enghraifft Preview ar Mac neu Foxit ar PC

Help wrth ddefnyddio’r ffurflen hon

Am help a chyngor ar y wybodaeth y bydd angen i chi ei rhoi ar y ffurflen neu am y budd-dal rydych am wneud cais amdano, cysylltwch â llinell gymorth Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol. Neu cysylltwch â sefydliad gwirfoddol fel Cyngor ar Bopeth neu Age UK.

Cysylltwch â desg gymorth ar-lein DWP, os ydych yn cael trafferthion technegol wrth:

  • lawrlwytho’r ffurflen  

  • symud o gwmpas y ffurflen

  • argraffu’r ffurflen 

Desg gymorth ar-lein DWP

E-bost E-bost dwponline.helpdesk@dwp.gov.uk

Ffôn: 0800 169 0154

Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am i 6pm
Ar gau ar benwythnosau a holl wyliau banc a chyhoeddus

Darganfyddwch am gostau galwadau

Ble i anfon y ffurflen

Anfonwch y ffurflen i’r Gwasanaeth Pensiwn, neu gofynnwch i rywun wneud ar eich rhan.


Freepost DWP Pensions Service 3  

Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth heblaw’r cyfeiriad rhadbost ar yr amlen. Nid oes angen cod post neu stamp arnoch.

Os ydych wedi derbyn ffurflen bapur, gallwch ddefnyddio’r amlen sydd wedi’i gynnwys i’w dychwelyd.

Os ydych angen y ffurflen hon mewn fformat gwahanol

Cysylltwch â cysylltwch â llinell gymorth Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol i ofyn am:

  • gopi o’r ffurflen wedi’i hargraffu 

  • fformat gwahanol, fel print mawr, braille neu CD sain

Cyhoeddwyd ar 1 July 2012
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 June 2024 + show all updates
  1. Replaced the postal address with Freepost DWP Pensions Service 3 and added "Do not write anything except the freepost address on the envelope. You do not need a postcode or a stamp".

  2. Updated Born before 6 April in 1951 (men) or 1953 (women): State Pension claim form.

  3. Updated Born before 6 April in 1951 (men) or 1953 (women): State Pension claim form (BR1).

  4. Published latest versions of the BR1 basic State Pension claim form and notes.

  5. Replaced the Welsh basic State Pension claim form (BR1W) with an interactive version.

  6. Added BR1 accessible form and notes. Also, updated information on before you start to use the form and how to use it.

  7. Information updated to reflect that the Get Your State Pension online service is only available for people born on or after 6 April in 1951 (men) or 1953 (women).

  8. Removed the placeholder for the state pension claim form for those born on or after 6 April in 1951 (men) or 1953 (women). This form is no longer available online. The accessible online service can be used, or a paper copy of the form can be requested.

  9. Updated the address for posting the form.

  10. Removed state pension claim form for those born on or after 6 April in 1951 (men) or 1953 (women) and added a temporary placeholder until it can be updated.

  11. Updated details section with the address for the postal form.

  12. Updated Welsh 'details' section to reflect changes to English version.

  13. Added Welsh version of BR1.

  14. First published.