Credyd Pensiwn
Beth fyddwch yn ei gael
Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at:
- eich incwm wythnosol i £218.15 os ydych yn sengl
- eich incwm wythnosol ar y cyd i £332.95 os oes gennych bartner
Efallai y cewch symiau ychwanegol os oes gennych gyfrifoldebau a chostau eraill.
Mae’r ychwanegiad a symiau ychwanegol yn cael eu hadnabod fel ‘Credyd Gwarantedig’.
Os oes gennych anabledd difrifol
Efallai y gallwch gael £81.50 yr wythnos yn ychwanegol os cewch unrhyw un o’r canlynol:
- Lwfans Gweini
- cydran gofal cyfradd ganol neu uchaf y Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- cydran bywyd bob dydd y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Taliad Anabledd Oedolion - elfen bywyd bob dydd ar y gyfradd safonol neu uwch
Os ydych yn gofalu am oedolyn arall
Gallwch gael £45.60 yr wythnos yn ychwanegol os:
- rydych yn cael Lwfans Gofalwr
- rydych yn cael Taliad Cymorth Gofalwr
- rydych wedi cael Lwfans Gofalwr ond nid ydych yn cael eich talu oherwydd eich bod eisoes yn cael budd-dal arall sy’n talu swm uwch
Os ydych chi a’ch partner wedi hawlio neu’n cael Lwfans Gofalwr, gall y ddau ohonoch gael y swm ychwanegol yma
Os ydych yn gyfrifol am blant neu bobl ifanc
Gallwch gael £66.29 yr wythnos yn ychwanegol ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc rydych yn gyfrifol amdano. Mae hyn yn cynyddu i £76.79 yr wythnos ar gyfer y plentyn cyntaf os cafodd ei eni cyn 6 Ebrill 2017.
Fel rheol rhaid i’r plentyn neu’r person ifanc fyw gyda chi a bod o dan 20 oed.
Os ydynt yn 16 oed neu’n hŷn ac o dan 20 oed, mae’n rhaid iddynt fod ar (neu wedi cael eu derbyn am):
- hyfforddiant a gymeradwywyd, fel Prentisiaethau Sylfaenol
- cwrs addysg nad yw’n addysg uwch (er enghraifft, maent yn astudio ar gyfer TGAU neu Safon Uwch)
Os ydynt mewn addysg, rhaid iddo fod am fwy na 12 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
Os ydych yn cael Credydau Treth, ni allwch gael yr ychwanegiad yma o Gredyd Pensiwn am ofalu am blentyn. Ond efallai y byddwch yn gymwys i gael Credydau Treth Plant.
Os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn anabl
Os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn anabl, gallwch hefyd gael swm ychwanegol o naill ai:
- £35.93 yr wythnos os ydynt yn cael DLA, PIP neu ADP
- £112.21 yr wythnos os ydynt yn ddall neu os ydynt yn cael y gydran gofal cyfradd uchaf o DLA, neu’r gydran byw bob dydd uwch o PIP
Os oes gennych gostau tai
Gallech gael swm ychwanegol i dalu am eich costau tai, fel:
- rhent daear os yw’ch eiddo yn brydlesol
- rhai taliadau am wasanaeth
- taliadau am bebyll a rhenti safle
Mae’r swm y gallech ei gael yn dibynnu ar eich costau tai.
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, fe allwch hefyd fod yn gymwys ar gyfer:
- Gostyngiad Treth Cyngor
- Budd-dal Tai os ydych yn rhentu’r eiddo rydych yn byw ynddo
- Cefnogaeth ar gyfer Llog Morgais os ydych yn berchen ar yr eiddo rydych yn byw ynddo
Os oes gennych gynilion neu ail bensiwn
Gallech gael y rhan ‘Credyd Cynilo’ o Gredyd Pensiwn os yw dau o’r canlynol yn berthnasol:
- gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
- gwnaethoch gynilo rhywfaint o arian ar gyfer ymddeol, er enghraifft pensiwn personol neu bensiwn y gweithle
Byddwch yn cael hyd at £17.01 o Gredyd Cynilo yr wythnos os ydych yn sengl. Os oes gennych bartner, byddwch yn cael hyd at £19.04 yr wythnos.
Efallai y byddwch yn dal i gael rhywfaint o Gredyd Cynilo hyd yn oed os na chewch y rhan Credyd Gwarantedig o’r Credyd Pensiwn.
Cymorth arall os ydych yn cael Credyd Pensiwn
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, byddwch yn cael taliadau tywydd oer yn awtomatig.
Byddwch hefyd yn gymwys i:
- wneud cais am drwydded deledu am ddim os ydych yn 75 oed neu’n hŷn
- cael help gyda chostau GIG os ydych yn cael rhan Credyd Gwarantedig Credyd Pensiwn
Gall costau GIG gynnwys pethau fel presgripsiynau, triniaeth ddeintyddol, sbectol a chostau cludiant ar gyfer apwyntiadau ysbyty.
Darganfyddwch faint y gallwch ei gael
Defnyddiwch y gyfrifiannell Credyd Pensiwn i weithio allan faint y gallwch ei gael.
Efallai y gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell Credyd Pensiwn i wirio eich cymhwysedd a chael amcangyfrifiad o faint gallwch chi ei gael.
Llinell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn
Ffôn: 0800 99 1234
Ffôn testun: 0800 169 0133
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 99 1234
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau
Sut rydych yn cael eich talu
Fel arfer, telir yr holl fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau i gyfrif, er enghraifft cyfrif banc.