Credyd Pensiwn
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Mae angen i chi roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau personol ac eich amgylchiadau ariannol chi a’ch partner.
Efallai y bydd eich cais yn cael ei atal neu ei leihau os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith. Bydd rhai newidiadau yn cynyddu faint o Gredyd Pensiwn y gallech ei gael.
Newidiadau i’ch amgylchiadau personol
Gall newid i’ch amgylchiadau personol gynnwys:
- symud i gyfeiriad newydd
- dechrau neu roi’r gorau i fyw gyda phartner
- marwolaeth partner a enwir ar eich cais
- dechrau neu roi’r gorau i weithio
- mynd i mewn i’r ysbyty neu gartref gofal
- pobl yn symud i mewn neu allan o’ch tŷ
- newid eich enw
- newid eich cyfrif banc
- newidiadau i’ch cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post
- yn gadael Cymru, Lloegr a’r Alban am unrhyw gyfnod (er enghraifft, mynd ar wyliau)
- rydych yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i ofalu am blentyn neu berson ifanc o dan 20 oed
- newidiadau i’ch statws mewnfudo, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig
Newidiadau i’ch amgylchiadau ariannol
Mae angen i chi hefyd roi gwybod os yw’ch incwm neu’ch treuliau’n newid. Gall hyn gynnwys newidiadau i:
- costau tai, er enghraifft rhent daear neu daliadau gwasanaeth
- budd-daliadau y mae unrhyw un sy’n byw yn eich cartref yn ei gael - gan gynnwys cael budd-dal newydd neu fudd-dal yn cael ei atal
- pensiynau galwedigaethol neu bersonol - gan gynnwys os ydych yn dechrau cael -ensiwn newydd neu’n cymryd cyfandaliad allan o’ch cronfa pensiwn
- incwm arall, er enghraifft pensiynau tramor neu Gredydau Treth Gwaith
- cynilion, buddsoddiadau neu eiddo
Ffoniwch y llinell gymorth Credyd Pensiwn os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi roi gwybod am newid.
Gellid mynd â chi i’r llys neu bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol os rhowch wybodaeth anghywir neu beidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.
Sut i roi gwybod am newid
Llinell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn
Ffôn: 0800 731 0453
Ffôn testun: 0800 169 0133
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0469
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau
Gallwch hefyd roi gwybod trwy’r post. Mae’r cyfeiriad ar y llythyrau a gewch am eich Credyd Pensiwn.
Byw gyda phartner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Byddwch yn rhoi’r gorau i gael Credyd Pensiwn os byddwch chi’n dechrau byw gyda phartner sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch chi ddechrau ei gael eto pan fydd eich partner yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os oeddech chi’n byw gyda phartner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 15 Mai 2019 ac yn cael Credyd Pensiwn, byddwch chi’n dal i’w gael oni bai eich bod chi’n rhoi’r gorau i fod yn gymwys. Os bydd hyn yn digwydd, fel arfer ni fyddwch yn gallu cael Credyd Pensiwn eto nes eich bod chi a’ch partner yn gymwys.
Os na allwch gael Credyd Pensiwn, efallai y bydd gennych hawl i Gredyd Cynhwysol, ond ni allwch chi a’ch partner gael y ddau ar yr un pryd. Os bydd un ohonoch yn dechrau cael Credyd Cynhwysol, byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn.
Os oes gennych Gyfnod Asesu Incwm (AIP)
Mae AIP yn gyfnod o amser pan nad oes raid i chi roi gwybod am newidiadau i’ch pensiynau, cynilion neu fuddsoddiadau.
Os oes gennych AIP mae’n rhaid i chi roi gwybod am bob newid arall i’ch amgylchiadau personol.
Mae eich llythyr dyfarniad Credyd Pensiwn yn dweud wrthych a oes gennych AIP. Efallai bod gennych chi un os ydych yn 75 oed neu’n hŷn ac wedi dechrau cael Credyd Pensiwn cyn 6 Ebrill 2016.
Bydd eich AIP yn dod i ben os bydd amgylchiadau eich cartref yn newid, er enghraifft os ydych yn symud i gartref gofal neu os ydych yn dod yn aelod o gwpl.
Fe gewch lythyr yn dweud bod eich AIP wedi dod i ben. O hynny ymlaen, rhaid i chi roi gwybod am bob newid i’ch amgylchiadau, gan gynnwys newidiadau i’ch pensiynau, cynilion neu fuddsoddiadau.
Ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi roi gwybod am newid.
Os ydych wedi cael eich gordalu
Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:
- ddim wedi rhoi gwybod am newid ar unwaith
- wedi rhoi gwybodaeth anghywir
- wedi eich gordalu mewn camgymeriad
Gwybodaeth am sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.