Edrychwch i weld os ydych angen gwneud cais

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.

Nid oes angen i chi wneud cais os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Cymorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith

Bydd angen i chi wneud cais os ydych yn gymwys a’n byw dramor.

Cael help a chyngor

Ffoniwch y Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf os nad ydych yn siwr os ydych yn gymwys. Ni allwch wneud cais dros y ffôn.

Canolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf
Ffurflen ymholiad e-bost Ffôn: 0800 731 0160 Ffôn testun: cysylltwch â Relay UK ar 18001 ac yna 0800 731 0464 Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm Darganfyddwch am gostau galwadau