Cymhwyster

Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer Gaeaf 2024 i 2025 os cawsoch eich geni cyn 23 Medi 1958.

Rhaid i chi hefyd byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon a chael un o’r canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith

Bydd angen i chi hefyd wedi bod yn cael budd-dal yn ystod yr wythnos gymhwyso 16 i 22 Medi 2024.

Mewn rhai amgylchiadau, gallech fod yn gymwys os ydych yn byw dramor.

Pan na fyddwch yn gymwys

Ni fyddwch yn gymwys os:

  • rydych yn byw yn yr Alban
  • rydych wedi bod yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim am fwy na blwyddyn
  • roeddech yn y carchar am yr wythnos gyfan rhwng 16 a 22 Medi 2024
  • roeddech yn byw mewn cartref gofal am yr holl amser rhwng 24 Mehefin a 22 Medi 2024

Os ydych chi’n byw yn yr Alban, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad tebyg gan Lywodraeth yr Alban. Bydd hyn yn cael ei dalu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Os ydych yn byw mewn cartref gofal

Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os:

  • rydych yn cael budd-daliadau penodol ac yn gymwys
  • rydych wedi byw mewn cartref gofal am lai na 13 wythnos gan gynnwys yr wythnos 16 i 22 Medi 2024